Mae Heddlu’r De wedi datgelu iddyn nhw roi 430 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i bobol am dorri cyfyngiadau’r coronafeirws yn ystod mis Rhagfyr.

Mae hyn yn cynnwys 240 o adroddiadau o dorri’r cyfyngiadau ar Nos Galan, gan roi 43 o Hysbysiadau Cosb Benodedig.

Mae Cymru’n dal yn destun y cyfyngiadau llymaf ar ddechrau’r flwyddyn newydd, ac mae Heddlu’r De yn annog pobol i ddilyn y rheolau er mwyn cadw eu cymunedau’n ddiogel.

Cyfyngiadau

Dim ond fel ateb terfynol y bydd yr heddlu fel arfer yn gweithredu i orfodi’r cyfyngiadau, gan barhau i annog pobol i’w dilyn bob amser.

Mae gan yr heddlu bwerau newydd i chwilio cerbydau ar hap.

Fel rhan o’r cyfyngiadau, mae disgwyl i bobol aros yn eu cartrefi ac i beidio â theithio heb reswm dilys a gall yr heddlu benderfynu stopio unrhyw gerbyd unrhyw bryd.

Maen Heddlu’r De wedi stopio cyfanswm o 941 o gerbydau ers Rhagfyr 23 er mwyn adnabod cerbydau sy’n teithio yn yr ardal pan na ddylen nhw fod yn gwneud hynny.

Mae disgwyl i’r ymgyrch bara tan Ionawr 11.

Yn ôl y cyfyngiadau, mae’n rhaid:

  • cadw pellter â phobol y tu allan i’r aelwyd neu swigen y cartref
  • gwisgo gorchudd wyneb os oes modd dan do
  • aros yn y cartref gan fynd allan i wneud ymarfer corff os dymunir, ond peidio â theithio i wneud hynny
  • peidio â chreu aelwyd estynedig – gall pobol sengl a rhieni sengl ffurfio swigen drwy ymuno ag un aelwyd arall
  • peidio â chyfarfod ag unrhyw un y tu allan i’r aelwyd neu’r swigen
  • cyfarfod â phobol y tu allan i’r aelwyd neu’r swigen yn yr awyr agored yn unig
  • gweithio gartref os oes modd
  • peidio â theithio heb reswm dilys
  • peidio â theithio dramor heb reswm dilys

Ymateb

Yn ôl yr heddlu, mae’r rheolau’n glir.

“Mae ein partneriaid iechyd wedi bod yn glir fod trosglwyddo dan do yn dal yn un o’r peryglon mwyaf, felly tra y byddwn ni’n parhau i gydweithio â’n cymunedau i’w helpu i ddeall y rheolau, byddwn ni’n eu gorfodi yn yr ardaloedd hynny lle’r ydyn ni’n eu gweld nhw’n cael eu torri’n amlwg neu’n barhaus,” meddai’r Uwcharolygydd Claire Evans o Heddlu’r De.

“Ni chaniateir partïon tŷ, mynychu cynulliadau na theithio i wneud ymarfer corff os ydych chi’n gwneud unrhyw un o’r pethau hyn, rydych chi mewn perygl o gael dirwy.

“Dw i eisiau diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth ac am yr aberth mae cymunedau ledled de Cymru wedi’i gwneud yn ystod ail don y pandemig.

“Mae’r cyfyngiadau sydd mewn grym yno am reswm ac mae mor bwysig ag erioed i weithredu mewn modd cyfrifol.”