Mae llywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr yn rhybuddio nad yw ysbytai’r de eto wedi gweld y gwaethaf o’r pwysau fydd arnyn nhw yn sgil y coronafeirws.

Fe fu’n siarad â’r BBC wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos bod 53,285 o brofion positif yn labordai gwledydd Prydain erbyn 9 o’r gloch fore ddoe (dydd Gwener, Ionawr 1).

Ond mae’r ffigurau hynny’n “eithaf ysgafn” o gymharu â’r hyn sydd i’w ddisgwyl ymhen wythnos, meddai’r Athro Andrew Goddard.

Mae’n dweud bod gweithwyr iechyd “yn bryderus iawn” am yr hyn sydd i ddod dros y misoedd nesaf.

Effaith y Nadolig

“Does dim amheuaeth y bydd y Nadolig yn cael effaith fawr, mae’r amrywiad newydd hefyd am gael effaith fawr, rydyn ni’n gwybod ei fod yn fwy heintus, yn fwy trosglwyddadwy, felly dw i’n credu y bydd y niferoedd mawr rydyn ni’n eu gweld yn y de-ddwyrain (yn Lloegr), yn Llundain, yn ne Cymru, yn cael eu hadlewyrchu dros y mis nesaf, y ddau fis nesaf hyd yn oed, dros weddill y wlad,” meddai’r Athro Andrew Goddard wrth BBC Breakfast.

“Dylai’r holl ysbytai sydd heb gael y pwysau mawr maen nhw wedi’i gael yn y de-ddwyrain, Llundain a de Cymru ddisgwyl iddo ddod atyn nhw.

“Mae’r amrywiad newydd hwn yn sicr yn fwy heintus ac yn lledu ar draws y wlad gyfan.

“Mae’n ymddangos ei bod yn debygol iawn y gwelwn ni fwyfwy o achosion, lle bynnag y mae pobol yn gweithio yn y Deyrnas Unedig, ac mae angen i ni fod yn barod ar gyfer hynny.”