Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew sy’n cynnwys Cymru.

Mae rhybudd i yrwyr am amodau gyrru gwael ar y ffyrdd, a’r disgwyl yw y bydd eirlaw ac eira’n cwympo gan symud ymhellach i dde gwledydd Prydain yn ystod y dydd.

Mae darogan y gallai hyd at 5cm o eira gwympo ar diroedd uchel, a hyd at 2cm ar diroedd isel.

Bydd y rhybudd mewn grym tan 6 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Ionawr 2).