Mae’n ymddangos bod canlyniad etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau’n dal i hollti barn y Gweriniaethwyr ar drothwy cyfarfod y Gyngres i gadarnhau canlyniadau terfynol y Coleg Etholaethol.

Mae’r Arlywydd Donald Trump yn dal i fynnu mai fe, ac nid y Darpar Arlywydd Joe Biden, enillodd yr etholiad.

Ond nid pawb o fewn y blaid sy’n cytuno, gydag Arweinydd y Senedd Mitch McConnell o’r farn y dylid rhoi’r gorau i herio’r canlyniad.

Mae’r Seneddwr Josh Hawley o dalaith Missouri wedi addo ymuno â’r criw o aelodau’r blaid sy’n gwrthwynebu’r canlyniad, ond mae Ben Sasse, ei gydweithiwr yn Nebraska, yn rhybuddio bod y fath heriau’n “beryglus” i ddyfodol y wlad.

Yng nghanol y ffrae mae Mike Pence, y Dirprwy Arlywydd, sydd dan bwysau am mai fe fydd yn cadeirio cyfarfod o’r Gyngres ddydd Mercher (Ionawr 6).

Fe fu eisoes yng nghanol her gyfreithiol i geisio rhoi’r grym iddo allu gwyrdroi canlyniadau’r etholiad a datgan mai Donald Trump oedd yr enillydd go iawn, ond cafodd yr her honno ei gwrthod gan farnwr ddoe (dydd Gwener, Ionawr 1).

Mae disgwyl i Joe Biden gael ei dderbyn yn ffurfiol i’r swydd ar Ionawr 20 ar ôl ennill pleidlais y Coleg Etholaethol o 306 i 232.

Ffrae a hollti barn

Mae Ben Sasse, Seneddwr Nebraska, wedi cyhoeddi darn ar y cyfryngau cymdeithasol yn egluro’i benderfyniad i beidio â cheisio gwyrdroi canlyniad yr etholiad.

Y disgwyl yw y bydd yn sefyll fel ymgeisydd yn etholiad arlywyddol 2024.

Donald Trump yw’r arlywydd cyntaf ers bron i 30 o flynyddoedd i golli etholiad wrth geisio cadw ei swydd.

Mae’n honni mai twyll etholiadol oedd yn gyfrifol am y canlyniad, er gwaethaf sylwadau swyddogion etholiadol fod y canlyniad yn gwbl ddibynadwy.

Mae e wedi colli bron bob un o’i 50 o heriau cyfreithiol, gan gynnwys dau achos gerbron y Goruchaf Lys.

Serch hynny, mae’n dal i annog Gweriniaethwyr i herio canlyniadau’r etholiad ar y cam olaf.

Yn ôl y Gweriniaethwyr, maen nhw am adael i bobol “bleidleisio yn ôl eu cydwybod”, a dydy hi ddim yn glir eto faint o aelodau fydd yn herio’r canlyniad.

Mike Pence

Ddoe (dydd Gwener, Ionawr 1), fe wnaeth barnwr ffederal wrthod cais hwyr gan y Gweriniaethwyr i roi’r hawl i Mike Pence wyrdroi canlyniadau’r etholiad yn ystod cyfri swyddogol y Gyngres yr wythnos nesaf.

Pence fydd yn cael y cyfrifoldeb o gyhoeddi enw’r enillydd yn swyddogol gerbron y Senedd, sef y cam olaf cyn i’r Arlywydd allu camu i’r swydd yn ffurfiol.

Cafodd ei enwi fel diffynnydd yn yr achos diweddaraf, gyda’r cais yn galw ar y llys i ddileu deddf a gafodd ei phasio yn 1887 sy’n amlinellu sut y dylai’r Gyngres fynd ati i gyfri’r pleidleisiau.

Fe fu’r Gweriniaethwyr yn dadlau mai Pence yn unig ddylai gael yr hawl i benderfynu sut mae’r pleidleisiau’n cael eu cyfri.

Cafodd yr achos ei ddwyn gan Louie Gohmert ar ran Gweriniaethwyr Tecsas ac Arizona, ond penderfynodd y llys nad oedd sail i’w honiadau fod y canlyniad yn annheg.