Mae lluoedd arfog Pacistan wedi arestio un o arweinwyr honedig yr ymosodiad brawychol ym Mumbai yn India yn 2008.

Cafodd 166 o bobol eu lladd yn y ffrwydrad.

Cafodd Zaikur Rehman Lakhvi ei arestio yn nwyrain Lahore ar amheuaeth o gyllido brawychiaeth.

Mae lle i gredu ei fod yn un o arweinwyr Lashker-e-Taiba, y criw sy’n cael eu hamau o fod yn gyfrifol am yr ymosiadau.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa rai diwrnodau wedi’r ymosodiad, ond fe gafodd ei ryddhau gan lys ym Mhacistan yn 2015.

Mae lle i gredu ei fod yn flaenllaw mewn elusen fu’n celu gweithgareddau’r brawychwyr.

Mae Hafiz Saeed, arweinydd yr elusen, yn frawychwr yn ôl Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau, ac mae wedi’i garcharu ym Mhacistan mewn perthynas â sawl trosedd dros y misoedd diwethaf ac mae’r awdurdodau’n chwilio’i holl fosgiau, ysgolion ac elusennau.