Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i’r heddlu gymryd 36 awr i ddod â pharti anghyfreithlon i ben yn Llydaw.
Daeth o leiaf 2,500 o bobol ynghyd ar gyfer y parti yn Luzron, ac roedd sawl ymosodiad ar yr heddlu wrth iddyn nhw geisio tawelu a gwasgaru’r dorf.
Cafodd y parti ei gynnal er gwaethaf cyfyngiadau’r coronafeirws, sy’n cynnwys cyrffiw am 10 o’r gloch y nos.
Mae lle i gredu bod y parti wedi dod i ben heb ragor o drais, ond mae mwy na 1,200 o bobol wedi cael dirwy am anwybyddu’r cyrffiw, peidio â gwisgo gorchudd wyneb ac ymgynnull yn anghyfreithlon, ac mae eu cyfarpar trydanol wedi cael eu cipio oddi arnyn nhw.
Daeth pobol o bob rhan o Ffrainc ar gyfer y digwyddiad, yn ôl yr awdurdodau.
Ar noson gynta’r digwyddiad, roedd sawl ymosodiad ar blismyn, wrth i gerbydau gael eu rhoi ar dân a photeli a cherrig gael eu taflu at yr heddlu.
Mae mwy na 64,000 o bobol wedi marw ers dechrau ymlediad y coronafeirws yn Ffrainc.