Mae Plaid Cymru wedi dadorchuddio eu slogan etholiadol, gan addo adleisio “ysbryd ’99”.
Wrth ddadorchuddio’r slogan ar gyfer yr ymgyrch – O Blaid Cymru – dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, fod yr etholiad yn gyfle i ethol llywodraeth sydd wedi ymrwymo i greu “Cymru decach, wyrddach” fydd yn gallu fynnu drwy gymryd rheolaeth dros ei materion ei hun.
Mae’r etholiad nesaf yn gyfle i “adleisio ysbryd 1999 – ysbryd optimistiaeth, gobaith, dechrau newydd gyda llywodraeth newydd”, meddai.
Yn ôl Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, bydd y cyfnod tan ddiwrnod yr etholiad yn canolbwyntio ar nodi sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflawni “newid trawsnewidiol”, yn hytrach na setlo sgorau gwleidyddol.
“Mae’n amlwg on’d yw e?”
Meddai Adam Price: “Pleidleisiwch o blaid Cymru. Mae’n amlwg on’d yw e? Dyna beth rydyn ni’n ei wneud yn ein bywyd bob dydd, p’un a yw’n cefnogi Cymru mewn chwaraeon neu’n chwifio’r ddraig gyda balchder ble bynnag yr ydym yn y byd.
“Drwy wneud y penderfyniad hwnnw i bleidleisio dros Gymru, pleidleisiwn dros ein plant, i roi’r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.
“Rydym yn pleidleisio dros ein pobl ifanc, i roi iddynt y swyddi y mae arnynt eu hangen a’r gobaith y maent yn ei haeddu.
“Rydym yn pleidleisio dros system iechyd a gofal cymdeithasol a wneir yng Nghymru i ateb heriau unigryw Cymru.
“Dywed hanes wrthym na fydd yr un blaid gyda phencadlys yn San Steffan byth yn cyflawni dros Gymru.
“I Blaid Cymru, ni fydd Mai 6ed yn nodi diwedd ein hymgyrch ond megis ei dechrau – dechrau yr ymgyrch i adeiladu dyfodol tecach, gwyrddach lle mae ein gwlad yn ffynnu drwy gymryd rheolaeth dros ei materion ei hun a rhyddhau ei photensial mwyaf – ei phobl.”
“Llwybr newydd uchelgeisiol”
Ychwanegodd Liz Saville Roberts, a fydd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr yr Ymgyrch:
“Ar ôl 20 mlynedd o ddirywiad dan reolaeth y blaid Lafur yng Nghymru a chyda phlaid Dorïaidd ddinistriol iawn yn San Steffan, bydd pleidlais o blaid Cymru yn gosod y genedl ar lwybr newydd uchelgeisiol.
“Bydd Plaid Cymru yn cynnal ei hymgyrch fwyaf cadarnhaol erioed, gan ganolbwyntio ar newid trawsnewidiol, nid ar setlo sgorau gwleidyddol.
“Mae pandemig Covid-19 wedi dangos yr angen am Lywodraeth newydd yng Nghymru sy’n gallu gweithio yn effeithiol, yn glir ac yn benderfynol. Mae hefyd angen arnom Prif Weinidog sy’n barod i barhau hyd ddiwedd y daith.
“Heb os, bydd hon yn ymgyrch fel dim arall ond boed yn yr orsaf bleidleisio neu drwy’r post, mae pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais o blaid Cymru.”