Mae meddyg teulu amlwg wedi codi pryderon am y bwlch 12 wythnos rhwng dosys y brechlynnau coronafeirws.

Mae’r brechlyn Pfizer-BioNTech wedi bod yn cael ei ddosbarthu yng Nghymru ers dechrau mis Rhagfyr, ac ar ddechrau’r wythnos hon cyflwynwyd brechlyn Oxford-AstraZeneca.