Gyda’r straen newydd o’r coronafeirws ar gynnydd yn y gogledd ddwyrain, mae Is-Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru yn pwysleisio’r angen i gadw’n gaeth at y rheolau glendid a phellter oddi wrth bobol eraill.

“Mae un mewn tri o bobol [sy’n dioddef o] Covid yng ngogledd ddwyrain Cymru efo’r amrywiolyn newydd,” meddai Dr Olwen Williams.