Mae partner Julian Assange, sylfaenydd WikiLeaks, wedi siarad am y “siom fawr” o glywed na fydd yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth, er gwaethaf penderfyniad barnwr i wrthod cais yr Unol Daleithiau i’w estraddodi.

Dydd Llun (Ionawr 4), roedd Julian Assange yn wynebu 18 cyhuddiad, gan gynnwys honiadau o gynllwynio i hacio cyfrifiaduron a chynllwynio i ddatgelu manylion cudd-wybodaeth.

Daw’r achos ar ôl i WikiLeaks gyhoeddi cannoedd ar filoedd o ddogfennau rhwng 2010 a 2011 yn ymwneud â rhyfeloedd Irac ac Affganistan, yn ogystal â gwybodaeth ddiplomyddol.

Dyfarnodd y barnwr Vanessa Baraitser yn yr Old Bailey Dydd Llun, Ionawr 4 bod yna risg gwirioneddol o hunanladdiad, ac oherwydd hynny na ddylai Julian Assange, 49, gael ei estraddodi am “resymau iechyd meddwl.”

Heddiw (Ionawr 7), fe wnaeth Julian Assange gais am fechnïaeth, ond cafodd y cais ei wrthod gan y Barnwr yn sgil ofnau y byddai’n dianc.

Bydd rhaid i Julian Assange aros yng ngharchar Belmarsh tra bod Llywodraeth yr Unol Daleithiau’n apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod ei estraddodi.

Wrth siarad ar ôl clywed y penderfyniad, dywedodd ei bartner, Stella Morris:

“Mae hon yn siom fawr. Ni ddylai Julian fod yng ngharchar Belmarsh yn y lle cyntaf.

“Rwyf yn apelio ar Swyddfa Cyfiawnder [yr Unol Daleithiau] i ollwng y cyhuddiadau yn ei erbyn, ac i Arlywydd America roi pardwn iddo,” meddai.

“Annheg, anghyfiawn, ac afresymegol”

Dywedodd prif olygydd WikiLeaks, Kristinn Hrafnsson, y bydden nhw’n apelio’r penderfyniad i beidio caniatáu mechnïaeth.

“Credem ei fod yn annheg ac anghyfiawn, ac afresymegol o ystyried yr hyn ddywedodd y barnwr ddeuddydd yn ôl am iechyd Julian, problemau sydd yn cael eu hachosi, yn bennaf, oherwydd ei fod yn y carchar.

“Nid yw’n gwneud synnwyr i’w yrru yn ôl yno.

“Mae’n debyg y bydden nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod mechnïaeth iddo yn yr Uchel Lys ymhen oriau neu ychydig o ddyddiau, ac rydym ni’n disgwyl iddyn nhw ganiatáu mechnïaeth iddo, achos â bod yn onest nid yw’n gwneud synnwyr o safbwynt neb.”

Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad, dywedodd y Barnwr Vanessa Baraitser:

“Er tegwch, mae’n rhaid caniatáu i’r Unol Daleithiau herio fy mhenderfyniad, ac os bydd Mr Assange yn dianc yn ystod y broses yna fydden nhw’n colli’r cyfle i wneud hynny.”