Mae un myfyriwr, sy’n astudio am radd Meistr yng Nghaerdydd, yn dweud bod “angen i Lywodraeth Cymru sylw pa mor annheg yw gofyn i fyfyrwyr prifysgol dalu ffioedd llety llawn,” pan nad ydyn nhw’n gallu byw yno.
Yn ôl Ilan Jones, sydd adre yn Llanuwchllyn ers y Nadolig ond sy’n astudio gradd MSc Entrepreneuriaeth a Rheolaeth Arloesedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae’r cyfathrebu sydd wedi bod rhwng y Brifysgol a’r myfyrwyr “yn wael”.
Heddiw (Ionawr 7), mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud wrth fyfyrwyr am aros lle maen nhw, yn hytrach na dychwelyd i’r brifysgol.
Ni fydd myfyrwyr prifysgolion Lloegr yn cael dychwelyd nes canol Chwefror, gyda dysgu yn symud ar-lein nes hynny.
Ar hyn o bryd, bydd myfyrwyr prifysgolion Cymru yn cael dychwelyd fesul cam o’r wythnos nesaf ymlaen, yn dywedodd Ilan Jones fod “dim math o eglurdeb ynglŷn â phryd y bydd darlithoedd yn ailgychwyn”.
“Talu’r un faint o arian am y cwrs â phob blwyddyn arall”
“Roeddwn i wedi gobeithio dychwelyd i ddechrau fy ail dymor o’r cwrs Meistr yng Nghaerdydd ddydd Llun yma (Ionawr 4), ond gyda’r sefyllfa’n newid o ddydd i ddydd ar y pryd, penderfynais aros adre am wythnos ychwanegol,” meddai Ilan Jones.
“Fel llawer iawn o fyfyrwyr eraill, dwi’n teimlo fod cyfathrebu rhwng y brifysgol a ni wedi bod yn wael iawn, heb ddim math o eglurdeb ynglŷn â phryd y bydd darlithoedd yn ailgychwyn, os bydd newidiadau i aseiniadau ac arholiadau, ac os bydd dysgu wyneb-yn-wyneb yn ailgychwyn.
“Un o’r prif agweddau negyddol eleni ydi’r diffyg cysylltiad wyneb-yn-wyneb rhwng y myfyriwr a’r darlithydd yn y ddarlithfa,” ychwanegodd.
“Efallai fod llawer yn mwynhau’r dysgu ar-lein, ac yn teimlo fod mwy o ryddid ganddynt felly, ond yn bersonol, dyma un o’r anfanteision mwyaf sydd yn wynebu myfyrwyr prifysgol eleni. A hynny’n enwedig gan ein bod yn talu’r un faint o arian am y cwrs â phob blwyddyn arall, heb ddim math o ad-daliad na gostyngiad.”
Amser i Lywodraeth Cymru “wynebu’r ddadl”
Dywedodd Ilan Jones, a astudiodd ei radd gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, ei fod yn teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru “wynebu’r ddadl ynghylch ffioedd llety myfyrwyr”, yn enwedig os bydden nhw’n penderfynu dweud wrth fyfyrwyr aros lle maen nhw nes canol Chwefror.
Pwysleisiodd fod “angen i Lywodraeth Cymru sylwi pa mor annheg yw’r sefyllfa i fyfyrwyr sy’n talu rhent am eu llety, ac sy’n gaeth i gytundeb blwyddyn.”
“Wrth gwrs, mae’r mwyafrif ohonom yn cael benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i helpu wrth dalu am gostau byw / llety tra yn y brifysgol, ond rhaid cofio taw benthyciad, ac nid grant ydy’r rhain.
“Byddwn ni’n talu arian yn ôl am flynyddoedd, am rywbeth nad ydym ni wedi ei dderbyn,” dywedodd.
“Dylai prifysgolion ad-dalu yn rhannol, os nad yn llawn am gostau llety myfyrwyr sydd yn byw dan berchnogaeth y brifysgol, a dylai bod mwy o gymorth ar gael i fyfyrwyr sy’n rhentu tai yn breifat hefyd.”
Sylwadau Helen Mary Jones
Mae Plaid Cymru eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “ddod o hyd i ffordd i ad-dalu myfyrwyr” drwy “weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn dod o hyd i ffyrdd i ddefnyddio pwerau brys i ryddhau myfyrwyr rhag cytundebau llety”.
“Yn syml, mae’n annheg eu bod nhw’n talu am lety nad ydyn nhw’n gallu byw ynddo, yn enwedig ar amser pan nad yw’r sector lletygarwch yn agored – gan fod nifer o fyfyrwyr yn gweithio rhan amser yn y sector er mwyn cael cyflog,” meddai Helen Mary Jones, Gweinidog Cysgodol Addysg Ôl-16 Oed.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360:
“Fel cyrff annibynnol, mater i sefydliadau neu landlordiaid unigol yw cytundebau rhentu. Ildiodd y sector addysg uwch rai, neu’r cyfan, o gostau llety i fyfyrwyr yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, a chroesawyd hyn gennym.
“Rydym yn darparu £40m yn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys £10m ar gyfer caledi i fyfyrwyr, darpariaeth iechyd meddwl a chyllid undebau myfyrwyr.”Yng Nghymru rydym yn darparu’r pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig.
“Ni yw’r unig wlad yn Ewrop gyfan sy’n darparu grantiau a benthyciadau cyfwerth â chostau byw ymlaen llaw ar gyfer israddedigion llawn amser a rhan-amser, ac ar gyfer ôl-raddedigion. Mae hyn eisoes yn cynnwys dysgwyr ar gampws neu sy’n dysgu o bellter, a bydd yn parhau drwy gydol y flwyddyn academaidd.”
Gallwch ddarllen rhagor am sylwadau Helen Mary Jones isod.
“Trefniadau presennol i fyfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion yn gwbl anghynaladwy,” medd Plaid Cymru