Bydd arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch yn Lloegr yr haf hwn yn cael eu disodli gan asesiadau ysgol, mae Ysgrifennydd Addysg Lloegr, Gavin Williamson, wedi cadarnhau.

Dywedodd Gavin Williamson wrth Aelodau Seneddol y bydd y Llywodraeth yn “ymddiried mewn athrawon, yn hytrach nag algorithmau”.

Fis diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg John Swinney bod pob arholiad yn yr Alban wedi’i ganslo oherwydd effaith y coronafeirws ar ddisgyblion, ac heddiw (dydd Mercher, Ionawr 6) cadarnhaodd Peter Weir, Gweinidog Addysg Stormont, y bydd yr holl arholiadau TGAU a Safon Uwch yn cael eu canslo yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, eisoes wedi cyhoeddi ers mis Tachwedd na fydd arholiadau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn 2021.

Roedd Ysgrifennydd Addysg Lloegr yn cydnabod mai arholiadau yw’r “ffordd decaf” o asesu’r hyn y mae myfyriwr yn ei wybod, ond dywedodd fod effaith y pandemig yn golygu nad oedd modd cynnal arholiadau yn yr haf.

Daeth ei sylwadau yn Nhŷ’r Cyffredin wedi i’r Llywodraeth gyhoeddi y byddai ysgolion a cholegau yn Lloegr ar gau i’r rhan fwyaf o ddisgyblion tan ganol mis Chwefror yn sgil y cyfyngiadau symud cenedlaethol newydd yno.

Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin: “Gallaf gadarnhau nawr fy mod am ddefnyddio math o raddau a asesir gan athrawon gyda hyfforddiant a chymorth yn cael eu darparu i sicrhau bod y rhain yn cael eu dyfarnu’n deg ac yn gyson ledled y wlad.”

Tro pedol arall

Fis diwethaf, mynnodd Gavin Williamson na fyddai arholiadau yn Lloegr yn cael eu canslo yn y flwyddyn academaidd hon.

Wrth drafod ei addewid blaenorol, dywedodd ysgrifennydd addysg yr wrthblaid Kate Green: “Bryd hynny dylem fod wedi gwybod eu bod yn mynd i gael eu canslo.”

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Kate Green: “Roedd yn siomedig (na wnaeth Gavin Williamson) adduned blwyddyn newydd i osgoi tro pedol.

“Unwaith eto lle bynnag mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn mynd, mae anhrefn a dryswch yn dilyn a phlant, teuluoedd a staff addysg ledled y wlad sy’n talu’r pris am ei anallu.”

Dim arholiadau yng Nghymru y flwyddyn nesaf

Bydd gwaith cwrs ac asesiadau’n disodli arholiadau TGAU a Safon Uwch, meddai Kirsty Williams