Mae Prif Weithredwr GIG Cymru wedi rhannu darlun llwm o sefyllfa’r coronafeirws yng Nghymru.
Mewn cynhadledd i’r wasg y prynhawn ’ma, a gynhaliwyd ar y cyd â Dr Frank Atheron, Prif Swyddog Meddygol Cymru; mi rodd Dr Andrew Goodall ddiweddariad o’r sefyllfa yng Nghymru.
Dywedodd bod 2,800 o gleifion covid yn ysbytai Cymru erbyn hyn, sydd yn gynnydd 4% o gymharu â’r wythnos ddiwethaf.
Mae mwy na thraean o welyau ysbytai yn cael eu defnyddio gan gleifion Covid gyda’r ffigur yn amrywio o fwrdd i fwrdd (50% yw’r ffigur mewn dau fwrdd iechyd).
Ategodd bod chwe ysbyty yng Nghymru wedi cyrraedd statws ‘Lefel 4’ – y lefel argyfwng mwyaf dwys – ac mi roedd deg ar ‘Lefel 4’.
Mae’r cynnydd sydyn mewn achosion, oedd yn cael ei feio ar gymysgu cartrefi a math mwy newydd mwy trosglwyddadwy o’r feirws, yn golygu bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol “yn wynebu cyfnod anodd”, meddai.
“Mae’r GIG yn gweithio’n galed iawn i gydbwyso pwysau’r gaeaf a phwysau brys, gyda gofynion gofalu am niferoedd cynyddol o bobl sy’n ddifrifol wael gyda coronafeirws,” meddai Dr Goodall.
“Mae’r GIG yn cael ei herio’n fawr ar hyn o bryd ac mae’n wynebu cyfnod anodd o’n blaenau.
“Dyma adeg fwyaf heriol y flwyddyn bob amser ond mae pwysau’r pandemig yn golygu bod hyn hyd yn oed yn fwy dwys fel cyfnod gyda system gofal iechyd.”
“Pwysau aruthrol”
Mae 140 o gleifion yn cael eu trin am covid mewn unedau gofal critigol ar hyn o bryd, yn ôl Prif Weithredwr y GIG.
Dywedodd Dr Goodall fod system iechyd Cymru o dan “bwysau aruthrol”, gyda’i hunedau gofal dwys yn gweithredu ar 140% o’r capasiti arferol a dau fwrdd iechyd yn dynodi bron i hanner eu gwelyau i gleifion â’r feirws.
“Os bydd y duedd hon yn parhau, yn fuan iawn bydd nifer y cleifion sy’n gysylltiedig â Covid yn yr ysbyty ddwywaith yn uwch na’r uchafbwynt a welsom yn ystod y don gyntaf ym mis Ebrill,” pwysleisiodd.
Rhybuddiodd bod Gwasanaeth Iechyd yn methu â darparu pob un gwasanaeth yn ôl yr arfer oherwydd pwysau’r haint.
Ond dywedodd hefyd y dylai pobol beidio â chadw draw rhag ysbytai os ydyn nhw angen cymorth meddygol.
“Mae’r pedwar prif swyddog meddygol wedi codi pryderon gwirioneddol am y risg y bydd y GIG yn cael ei lethu mewn sawl rhan o’r DU.
“Mae GIG Cymru dan bwysau aruthrol, ond rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol fel y gall pobl barhau i gael triniaeth sy’n achub bywydau.
“Mae’n hanfodol bod pobl yn cael gofal brys os oes ei angen arnynt a pheidiwch ag oedi, cael help.”
Ffigurau diweddaraf Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 76 yn rhagor o farwolaethau yn eu ffigurau coronafeirws dyddiol heddiw (dydd Mercher, Ionawr 6).
Dyma’r nifer uchaf o farwolaethau i gael ei nodi ar un diwrnod ers dechrau’r pandemig.
Mae’n golygu bod cyfanswm o 3,738 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.
Cafodd 2,238 o achosion newydd eu cyhoeddi, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw ers dechrau’r ymlediad i 161,516.
Ffigurau Nadolig y Deyrnas Unedig: Mwy na 5,000 o farwolaethau
Cofnodwyd dros 5,000 o farwolaethau Covid-19 yn y Deyrnas Unedig gyfan dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos.
Bu farw cyfanswm o 5,085 o bobl rhwng Noswyl Nadolig a Dydd Calan, ac roedd pob un ohonynt wedi profi’n bositif am Covid-19 o fewn 28 diwrnod i’w marwolaeth.
Mae’r ffigur hwn yn debygol o godi wrth i farwolaethau pellach gael eu cofnodi.
Ni fydd cyfanswm y marwolaethau ar gyfer y cyfnod hwn, sy’n cynnwys pawb a gofnodwyd gan Covid-19 ar eu tystysgrif marwolaeth, yn hysbys tan yn ddiweddarach ym mis Ionawr.
Dim ond nawr y mae rhai o’r marwolaethau Covid-19 a ddigwyddodd yn y DU dros y Nadolig yn cael eu hadrodd.
O’r 1,041 o farwolaethau newydd a adroddwyd ar 6 Ionawr, digwyddodd tua thraean cyn 1 Ionawr, tra digwyddodd tua 100 yn y saith diwrnod hyd at Ddydd Nadolig.