Mae’r Daily Post wedi adrodd bod British Wool wedi cyhoeddi y bydd depo gwlân Porthmadog, ynghyd a thri depo arall ym Mhrydain, yn cau fel rhan o “raglen ailstrwythuro”.
O ganol mis Chwefror bydd y depo ym Mhorthmadog, Gwynedd, yn cael ei ddisodli gan ddepo newydd “yn yr ardal gyfagos” lle gall cynhyrchwyr ddanfon eu gwlân.
Mae’r safle ym Mhorthmadog yn dyddio’n ôl i 1956 pan greodd y masnachwyr gwlân TJ Williams ddepo yn hen adeiladau’r Undeb, Stryd Madog.
Daeth ailstrwythuro mawr olaf British Wool yng Nghymru yn 2015, pan addaswyd depo Dinbych o gyfleuster graddio i warws casglu a storio.
Ar y pryd roedd wyth aelod o staff llawn amser yn gweithio yn depo Porthmadog, a oedd hefyd yn cyflogi staff tymhorol bob haf.
Mae ei chau yn gadael Cymru gyda dim ond dwy ganolfan raddio, yn y Drenewydd ac Aberhonddu.
Bydd depo Porthmadog yn cau ynghyd ag Irvine, Stamford a Liskeard, a fydd yn arwain at golli 40 o swyddi.
Marchnad “heriol dros ben”
Mae Covid-19 wedi cael effaith andwyol sylweddol ar y farchnad wlân fyd-eang ac er gwaethaf y ffaith bod British Wool wedi clirio’r 11miliwn kg o wlân heb ei ddefnyddio oedd ganddo ddiwedd mis Ebrill, mynnodd fod y farchnad yn parhau i fod yn “heriol dros ben”.
Mae British Wool, sy’n berchen i tua 40,000 o ffermwyr defaid yn y Deyrnas Unedig, wedi cyfrifo y bydd y cau’r pedwar depo yn arbed £1.5 miliwn y flwyddyn, yn ôl The Courier.
Ac mae’n dweud na fydd yr ailstrwythuro’n effeithio ar wasanaethau gan y bydd y gwlân o’r ardaloedd hyn yn cael ei symud i ddepos graddio eraill o fewn y rhwydwaith.
Eglurodd prif weithredwr dros dro British Wool, Andrew Hogley, i The Herald: “Mae Gwlân Prydain wedi llwyddo i werthu gwlân mewn niferoedd parchus ers mis Awst sydd wedi ein galluogi i glirio stoc sydd heb ei werthu’r tymor diwethaf ond mae prisiau’n dal i fod yn isel iawn.
“Mae’r farchnad fyd-eang yn wynebu gorgyflenwad o wlân, mae hyn yn bennaf o Seland Newydd ond hefyd o farchnadoedd Ewropeaidd eraill.
“Er ein bod wedi gweld rhai arwyddion mwy cadarnhaol mewn gwerthiant diweddar ar rai mathau o wlân, mae gwlân carped yn parhau i fod o dan lawer iawn o bwysau.”
Ychwanegodd: “Er mwyn i ni wneud y mwyaf o werth gwlân cynhyrchwyr, mae’n hanfodol ein bod yn ail-lunio’r busnes yn unol ag amodau presennol y farchnad.
“Y tymor nesaf byddwn yn lleihau nifer y depos graddio yr ydym yn eu gweithredu o 12 i wyth.
“Bydd hyn yn arwain at gau ein depos graddio yn Irvine, Porthmadog, Stamford a Liskeard a bydd y gwlân o’r ardaloedd hyn yn cael ei ailddyrannu i ddepos graddio eraill o fewn ein rhwydwaith.”
“Ergyd arall i wlân yng Nghymru”
Mae Janet Finch-Saunders AoS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig, wedi mynegi ei phryderon ynghylch y bwriad i gau depo Porthmadog gan British Wool.
“Rwy’n deall yn iawn y rhesymau y tu ôl i’r penderfyniad dros gau; mae pris clip gwlân eisoes yn isel, a gallai arbed cyn lleied â chwech neu saith ceiniog y kilo o wlân wneud y cynnyrch gwych hwn ychydig yn haws i’w farchnata.”
“Mae’r diwydiant gwlân ar ei gliniau, a gyda elw mor fach, mae’n rhaid cael ymdrech ar y cyd gan y llywodraeth yma i gefnogi ein ffermwyr, bugeiliaid, a pawb yn y gadwyn cyflenwi gwlân i wneud y gorau o wlân Cymru.”