Mae Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “gamddehongli” y gyllideb ar gyfer Cymru, a hynny “yn fwriadol”.
Ddoe cyhoeddodd Canghellor San Steffan, Rishi Sunak, y bydd Cymru’n derbyn £227m fel rhan o becyn i gefnogi busnesau trwy’r gwanwyn yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.
Yn Senedd San Steffan heddiw (Ionawr 7), dywedodd Liz Saville Roberts fod y £227m yma eisoes wedi cael ei gyhoeddi, gan ddweud fod hyn yn “gamddehongli bwriadol” ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Camddehongli bwriadol”
“Mae hyn yn achos o gamddehongli bwriadol, sy’n rhoi gwybodaeth anghywir i fusnesau yng Nghymru ar bwrpas,” meddai’r Aelod Seneddol.
Aeth ymlaen i ofyn i Boris Johnson a fyddai’n ymddiheuro, gan ddweud bod angen codi’r cyfyngiadau ar fenthyg arian – cyfyngiadau sydd wedi eu gosod ar Gymru gan San Steffan.
The #Chancellor has re-wrapped £227 million of already announced funding as new money for Wales. This is willful misrepresentation – deliberately misinforming desperate businesses in #Wales. There is now an urgent need to lift borrowing constraints imposed on Wales by Westminster pic.twitter.com/i9TZU9cBLJ
— Liz Saville Roberts AS/MP (@LSRPlaid) January 6, 2021
Angen i Lywodraeth Cymru wario’r arian yn “synhwyrol”
Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson mai’r pethau pwysig yng Nghymru yw bod y Llywodraeth Lafur yma yn gwario’r arian cefnogi busnesau mewn ffordd “synhwyrol.”
“Dwi’n siŵr na fydda [arweinydd Plaid Cymru, Liz Saville Roberts], ac mae gennyf feddwl ohoni, eisiau cyhuddo’r Canghellor o gamddehongli bwriadol,” meddai Boris Johnson.
“Y peth pwysig yw bod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru’n gwario’r arian yn synhwyrol.
“Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yma i gefnogi busnesau, swyddi, a gyrfaoedd ar hyd y Deyrnas Unedig.
Cerydd
Ychwanegodd llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Sir Lindsey Hoyle, nad oedd yn “or-hapus” â’r term a ddefnyddiwyd (sef y Saesneg ‘willful‘).
“Credaf fod rhaid i ni feddwl am yr iaith rydym ni’n ei defnyddio yn y Siambr. Mae rhain yn amseroedd heb eu tebyg, ond rwy’n credu y dylai aelodau ddewis y math o iaith maen nhw’n ei defnyddio yn ofalus,” meddai.
“Chwarae gemau gwleidyddol plentynnaidd”
Yn dilyn y sesiwn, cyhuddodd Ms Saville Roberts Lywodraeth y Deyrnas Unedig o “chwarae gemau gwleidyddol plentynnaidd yn hytrach na rhoi eglurder i fusnesau ynglŷn â pha gymorth sydd o’n blaenau.”
“Mae’n adlewyrchu’r ffordd mae llywodraeth San Steffan wedi trin y pandemig drwyddi draw – fel ymgyrch wleidyddol nid argyfwng iechyd cyhoeddus,” meddai.
“Yn dilyn cyfres o ffiasgos a methiannau yn San Steffan, mae angen i ni bellach roi’r pwerau benthyca angenrheidiol i’n llywodraeth ein hunain yng Nghymru i gefnogi ein busnesau’n briodol gyda chymorth ariannol wedi’i deilwra’n bwrpasol.”