Mae’r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd i fyfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion yn “gwbl anghynaladwy” medai Helen Mary Jones, Gweinidog Cysgodol Addysg Ôl-16 Oed Plaid Cymru.

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud wrth y rhan fwyaf o fyfyrwyr i aros lle maen nhw.

Ar hyn o bryd mae’r sefyllfa yn wahanol ar gyfer myfyrwyr o Loegr a Chymru.

Mae gofyn i fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr aros adre tan ganol Chwefror, tra bod myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i fod i allu dychwelyd o’r wythnos nesaf ymlaen.

Nid yw’n syndod nad yw nifer o fyfyrwyr “yn gwybod beth yw’r peth gorau i’w wneud,” meddai Helen Mary Jones.

Miloedd o bobol ifanc yn symud ar hyd y wlad yn “anghywir”

“O ystyried dwyster yr argyfwng iechyd cyhoeddus, a’r ffaith fod ysgolion wedi cau, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud wrth y rhan fwyaf o fyfyrwyr i aros lle maen nhw, ac i ddysgu symud ar-lein am y tro.

“Dim ond rheiny sy’n astudio cyrsiau ble mae dysgu wyneb yn wyneb a dysgu ymarferol yn gwbl hanfodol, megis nyrsio, meddygaeth, a milfeddygaeth, ddylai ddychwelyd i astudio wyneb yn wyneb – a hynny mewn ffordd sy’n cael ei rheoli’n ofalus er mwyn lleihau cysylltiadau cymdeithasol.

“Mae’r argyfwng iechyd cyhoeddus mor ddifrifol, byddai cael degau o filoedd o bobol ifanc yn symud ar hyd y wlad nawr yn anghywir,” pwysleisia Helen Mary Jones.

“Byddai hyn yn achosi problemau ariannol i brifysgolion, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod prifysgolion yn derbyn arian i wneud iawn am y golled, yn wahanol ym mhob sefydliad, gan fod pob sefydliad yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd.

“Mae’n hanfodol fod ein prifysgolion yn cael cefnogaeth ar yr adeg anodd yma. Bydd hyn yn chwarae rhan fawr wrth ailadeiladu ein cymdeithas ac ein heconomi pan fydd yr argyfwng ar ben.”

Galw am ad-dalu ffioedd llety myfyrwyr

“Mae’n rhaid dod o hyd i ffordd i ad-dalu myfyrwyr sydd wedi talu am eu llety am y flwyddyn o flaen llaw, neu eu rhyddhau rhag cytundebau sy’n eu gorfodi i dalu am y flwyddyn academaidd,” ychwanegodd.

“Yn syml, mae’n annheg eu bod nhw’n talu am lety nad ydyn nhw’n gallu byw ynddo, yn enwedig ar amser pan nad yw’r sector lletygarwch yn agored – gan fod nifer o fyfyrwyr yn gweithio rhan amser yn y sector er mwyn cael cyflog.

“Rydym yn deall fod nifer o brifysgolion wedi bod yn hael gyda myfyrwyr yn yr agwedd hon, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny.

“Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y golled incwm hon wrth roi arian ychwanegol i brifysgolion,” esbonia.

“Ond mae problem fawr wrth ystyried myfyrwyr sydd gyda chytundebau â landlordiaid preifat. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn dod o hyd i ffyrdd i ddefnyddio pwerau brys i ryddhau myfyrwyr rhag cytundebau llety, a sicrhau fod cefnogaeth fusnes ar gael i landlordiaid preifat fyddai’n cael eu heffeithio gan hyn.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360:

“Fel cyrff annibynnol, mater i sefydliadau neu landlordiaid unigol yw cytundebau rhentu. Ildiodd y sector addysg uwch rai, neu’r cyfan, o gostau llety i fyfyrwyr yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, a chroesawyd hyn gennym.

“Rydym yn darparu £40m yn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys £10m ar gyfer caledi i fyfyrwyr, darpariaeth iechyd meddwl a chyllid undebau myfyrwyr.”Yng Nghymru rydym yn darparu’r pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig.

“Ni yw’r unig wlad yn Ewrop gyfan sy’n darparu grantiau a benthyciadau cyfwerth â chostau byw ymlaen llaw ar gyfer israddedigion llawn amser a rhan-amser, ac ar gyfer ôl-raddedigion. Mae hyn eisoes yn cynnwys dysgwyr ar gampws neu sy’n dysgu o bellter, a bydd yn parhau drwy gydol y flwyddyn academaidd.”

“Byddwn ni’n talu arian yn ôl am flynyddoedd, am rywbeth nad ydym ni wedi ei dderbyn”

Angen i Lywodraeth Cymru “sylwi pa mor annheg yw’r sefyllfa i fyfyrwyr” medd un myfyriwr