Mae’r lledaeniad covid yn arafu yng Nghymru ac mae nifer yr achosion yn crebachu, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Roedd tôn Dr Frank Atherton yn bositif wrth iddo annerch y wasg brynhawn heddiw ar ran Llywodraeth Cymru.
Ac mi dynnodd sylw at y ffaith bod 204 achos o’r coronafeirws i bob 100,000 person yng Nghymru – sydd yn gwymp o’r 650,000 i bob 100,000 a welwyd cyn y Nadolig.
Mae’r gyfradd sy’n derbyn prawf positif wedi bod yn cwympo, a bellach wedi cyrraedd 14%, ac mae lle i gredu bod y gyfradd-R yng Nghymru bellach rhwng 0.7 ac 0.9.
“Yng Nghymru rydym yn dechrau gweld arwyddion cynnar o welliant o ran lledaeniad y feirws ymhlith y gymuned,” meddai.
“Parhad yw hyn o dueddiad a ddechreuodd tua dechrau Ionawr. Rydym wedi gweld achosion yn disgyn yn raddol yn y gymuned.
“Y newyddion da, hefyd, yw ei fod yn cwympo ym mhob rhan o Gymru,” meddai wedyn. “Mae pob awdurdod lleol, dros y deuddydd diwetha’ wedi gweld cwymp yn y gyfradd.
“Mae hyn i gyd yn dangos bod yr haint yn arafu a bod nifer yr achosion yn crebachu,” meddai. “Mae hynna’n amlwg yn newyddion da iawn.
“Allwn ni ddiolch i’r cyfnod clo, a phawb sy’n dilyn y rheolau hynny.”
Dim llacio
Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio ledled Cymru tan ddiwedd mis Chwefror ar y cynharaf, meddai’r prif swyddog meddygol.
Rhybuddiodd Dr Frank Atherton fod yr hyblygrwydd i lacio yn “eithaf cyfyngedig” er gwaethaf peth newyddion positif.
“Mae gennym gylch adolygu 21 diwrnod a thua diwedd mis Chwefror byddwn yn edrych eto lle rydyn ni arni o ran trosglwyddo cymunedol, capasiti a brechiadau’r GIG – a dyna fydd yr amser i feddwl am lacio pellach.”
Dywedodd Dr Atherton fod angen dysgu gwersi o ddiwedd cyfyngiadau Cymru yn ôl ym mis Tachwedd a’r cyfyngiadau cyntaf yr haf diwethaf.
Dywedodd: “Yr hyn a welsom oedd er bod cyfraddau’n gostwng yn eithaf da, pan wnaethom ryddhau pethau fe wnaethom eu rhyddhau mewn ffordd a oedd yn caniatáu i’r feirws ailsefydlu ei hun yn gyflym iawn, iawn.
“Ac felly wrth i ni gael mwy o le i ryddhau’r mesurau hyn, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw rhyddhau pethau’n ochelgar iawn.”
Y da a’r drwg
Ochr yn ochr â’r newyddion da pwysleisiodd bod angen i niferoedd achosion gwympo tipyn yn rhagor.
“Mae’r newyddion yn bositif, ond dydyn ni ddim ar ben arall y twnnel eto,” meddai. “Mae 200 i bob 100,000 yn llawer rhy uchel. Ac rydym yn dal i weld hynny o ran y pwysau ar y GIG.
“Mi fyddwch yn cofio bod yna oedi bob tro rhwng beth sy’n digwydd yn ein cymunedau, a beth sy’n digwydd yn ysbytai’r GIG.
“Mae gwasanaethau ysbytai yn ymdopi, ac yn sefydlog. Ond maen nhw’n brysur iawn. Unwaith eto, diolch i’r holl staff sy’n gweithio mor galed i gadw pobol yng Nghymru yn saff.”
Er bod y GIG dan “bwysau parhaus” mae yna “arwyddion bod pethau’n sefydlogi”, yn ôl yr uwch-swyddog.
O ran brechu dywedodd bod dros 312,000 wedi’u brechu sy’n gyfystyr â bron i 10% o’n poblogaeth.
Ddydd Gwener mi fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn rhoi diweddariad i’r genedl ynghylch y cyfyngiadau coronafeirws.
Straen Caint yng ngogledd Cymru
Ochr yn ochr â’r Prif Swyddog Meddygol roedd Dr Rob Orford, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru dros Iechyd yng Nghymru.
Yn siarad yn y gynhadledd i’r wasg mi dynnodd sylw at straen Caint, sef amrywiolyn o Covid sydd bellach wedi lledaenu dros y wlad gyfan.
“Yn yr hydref mi ymddangosodd straen newydd, ac rydym yn ei alw’n straen Caint oherwydd daeth i’r amlwg yn ne ddwyrain Lloegr,” meddai.
“Mae newidiadau i’r straen wedi ei wneud yn fwy heintus na’r ffurfiau a oedd yn cylchredeg yn gynt. Ers ei ymddangosiad mae wedi lledaenu yn gyflym dros Gymru.
“Bellach dyma’r straen mwyaf amlwg yn rhan fwyaf o ardaloedd y wlad hon. Mae’n bresennol bellach ym mhob rhan o Gymru.
“A dyma’r fersiwn mwyaf cyffredin yng ngogledd Cymru.”
Rhagor o ystadegau
- Cofnodwyd 537 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 189,689.
- Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 49 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm hwnnw yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 4,610.
- Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 312,305 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’i roi, cynnydd o 22,739 o’r ddiwrnod blaenorol.
- Dywedodd yr asiantaeth fod 639 o ail ddosau hefyd wedi’u rhoi, sy’n gynnydd o 96.
- Mae cyfanswm o 57.1% o bobl dros 80 oed wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn, ynghyd â 69.6% o breswylwyr cartrefi gofal a 76.1% o staff cartrefi gofal.