Mae Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru, wedi cael ei glywed yn galw cwestiwn cydweithiwr yn “hurt” yn ystod cyfarfod rhithiwr pwyllgor Senedd Cymru.

Cafodd sylwadau Vaughan Gething wrth ymateb i’w gyd-aelod Llafur Cymru, David Rees, eu codi gan feicroffon.

Daw hyn ar ôl iddo gael ei ddal yn rhegi am ei gyd-Aelod Cynulliad, Jenny Rathbone, ar ôl iddo anghofio troi’r meicroffon ar ei gyfrifiadur i ffwrdd ym mis Ebrill 2020.

Ddydd Mercher (Ionawr 27) dechreuodd cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ac AS Plaid Cymru Dai Lloyd y sesiwn Zoom drwy rybuddio cyfranogwyr bod meicroffonau yn “cael eu rheoli y tu ôl i’r llenni, ac fe fyddan nhw’n cael eu rheoli’n awtomatig, gobeithio”.

Ond mae’n ymddangos bod technoleg wedi dal Vaughan Gething allan am yr eildro ar ôl i David Rees ofyn faint o gartrefi gofal yng Nghymru sy’n caniatáu ymweliadau i berthnasau ar hyn o bryd.

“Faint o gartrefi gofal ledled Cymru ydych chi’n ymwybodol ohonynt sy’n caniatáu ymweliadau, a faint sydd ddim? Oes gennych chi’r rhifau hynny?” holodd.

Siglodd y Gweinidog Iechyd ei ben cyn sibrwd: “Cwestiwn hurt.”

Cafodd y cwestiwn ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Julie Morgan, a ddywedodd wrth David Rees: “Na, does gennym ni ddim y niferoedd hynny.”

“Nid unbennaeth yw Cymru”

Wrth ymateb dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, nad oedd cwestiwn David Rees yn un hurt, gan ychwanegu nad “unbennaeth yw Cymru”.

“Nid dyma’r tro cyntaf i’r Gweinidog Iechyd gael ei ddal yn wfftio cwestiynau a phryderon difrifol gan ei gydweithwyr Llafur,” meddai.

“Nid yw’n ‘gwestiwn hurt’ gofyn i Vaughan Gething am rifau penodol ar y cartrefi gofal hynny sy’n caniatáu ymweliadau.

“Mae’r polisïau hyn yn olau ar ddiwedd y twnnel i breswylwyr a’u teuluoedd.

“Mae’n rhaid i haerllugrwydd Llywodraeth Lafur Cymru, ac ymdrechion cyson i osgoi craffu, ddod i ben. Nid unbennaeth yw Cymru.”

“Osgoi craffu”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth AoS, fod Vaughan Gething yn “awyddus i osgoi craffu”.

“Mae’r argyfwng cartrefi gofal wedi cael ei ddogfennu’n dda,” meddai.

“Rydyn ni’n sôn am y bobol fwyaf bregus, ffrindiau a pherthnasau pryderus iawn, a gweithwyr gofal sydd o dan bwysau, ac eto dyma ni’r Gweinidog Iechyd, ar gofnod, yn diystyru pryderon dilys.

“Ar wahân i fod yn anghwrtais, mae’n ymddangos bod y Gweinidog Iechyd yn rhy aml o lawer yn awyddus i osgoi craffu ar faterion pwysig iawn.”

“What the…”

Ym mis Ebrill, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford wfftio galwadau i ddiswyddo Vaughan Gething ar ôl iddo adael ei feicroffon ymlaen yn ddamweiniol yn ystod sesiwn rithwir yn y Senedd.

Yn dilyn cwestiwn gan AoS Canol Caerdydd, Jenny Rathbone, dywedodd Vaughan Gething wrth berson anhysbys: “Be’ f*** sy’n bod gyda hi?”

Pen ac ysgwydd Vaughan Gething

“What the…” – sylwadau Vaughan Gething am ei gyd-aelod Llafur yn cael eu dal ar feicroffon

Vaughan Gething yn profi peryglon cyfarfodydd ar-lein wrth i feicroffon ei ddal yn rhegi wrth siarad am gyd-aelod Llafur