Dangosodd Gweinidog Iechyd Cymru y p’nawn ’ma sut na ddylai rhywun gynnal cyfarfod ar-lein.
Mae clip fideo yn cylchdroi ar Twitter y prynhawn yma o Vaughan Gething yn cael ei ddal yn rhegi am ei gyd-Aelod Cynulliad, Jenny Rathbone, ar ôl iddo anghofio troi y meicroffon ar ei gyfrifiadur i ffwrdd.
Wrth i Vaughan Gething orffen dweud ei ddweud, ac wrth i Elin Jones gymryd yr awennau, clywir llais Gething yn sgwrsio gyda rhywun ac yn rhegi.
Parhau i erfyn ar Vaughan Gething i sylweddoli beth oedd yn digwydd ac i ddiffodd ei feicroffon wnaeth Elin Jones: “Mae angen i Vaughan Gething droi ei feicroffon i ffwrdd!”
Mae edefyn o ymatebion rhai o’r aelodau ar gyfrif twitter Rob Osborne o ITV.
Yn ddiweddarach, anfonodd Vaughan Gething neges ar Twitter i ddweud ei fod wedi cysylltu â Jenny Rathbone i ymddiheuro.
Fodd bynnag, mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi mynd ar Twitter i fynnu y dylai golli ei swydd.