Bu farw’r Dr Aled Lloyd Davies, hyfforddwr a gosodwr cerdd dant a fu’n rhan allweddol o adfywiad y grefft drwy Gymru yn y 1960au.
Roedd y cerddor, a gafodd ei fagu yn y Brithdir, yn ddatgeinydd ac yn feirniad cerdd dant, a recordiodd sawl record ei hun. Bu am flynyddoedd yn arweinydd un o bartïon cerdd dant enwocaf Cymru, Meibion Menlli, gan ennill pum gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r un nifer yn yr Ŵyl Gerdd Dant.
Roedd yn athro uchel iawn ei barch, yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, ac yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug, lle y bu’n brifathro. Bu’n un o hoelion wyth yr Eisteddfod Genedlaethol – yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Cadeirydd y Cyngor, Llywydd y Llys ac, ers 2004, yn un o bum Cymrawd yr Eisteddfod sef yr anrhydedd mwya’ y gall y sefydliad ei rhoi.
Enillodd raddau MA a Doethuriaeth am ei ymchwil i hanes cerdd dant, ac mae yn enwog am ei lyfr Canrif o Gân 1881-1998.
“Clasur o lyfr,” meddai Bethan Bryn, un o’i gyn-ddisgyblion Daearyddiaeth yn Ysgol Brynhyfryd ac arbenigwr ar gerdd dant ei hun. “Ond efallai yn fwy pwysig ydi Cerdd Dant – Llawlyfr Gosod. Hwn oedd y beibl i bawb sy’n dechrau gosod neu i rai ohonon ni sy’n dal i osod.
“Fo a gyflwynodd gerdd dant i lot ohonon ni yn yr ysgol…
“Beth a ddysgodd o i mi yn fwy na dim oedd parchu geiriau. Cariad at eiriau. Mi oedd o’n canu’n naturiol ei hun wrth gyflwyno cerdd i ni ac yn egluro ei hystyr hi. Oddi wrtho fo y cefais i’r pwyslais ar y gair.”
Roedd Aled Lloyd Davies yn perthyn i’r diddanwr a’r steddfotwr Bob Lloyd, ‘Llwyd o’r Bryn’. Mewn cyfweliad ar Radio Cymru, soniodd sut y byddai’n arfer canu’r hen gywyddau ar gerdd dant yn y car ar y ffordd o’r Brithdir i Ddolgellau pan oedd yn fachgen, a’i dad yn canu cyfeiliant y delyn.
“Roedd o’n ddyn tu hwnt o ddiwylliedig ond roedd ganddo fo ddiddordebau eraill hefyd,” meddai Bethan Bryn. “Roedd fy nhad a fo’n arddwyr mawr. Yn ystod tatws cynnar, roedd o wastad yn gofyn i mi ‘a ydi dy dad wedi codi tatws eto?’ Roedd o’n ddyn cyflawn iawn ac yn ddyn pobol.
“Arian byw o ddyn oedd o.”