Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Dr Aled Lloyd Davies, sydd wedi marw’n 90 oed, ddyddiau’n unig cyn ei ben-blwydd.

Roedd y cerddor, beirniad ac arbenigwr cerdd dant o’r Brithdir yn aelod blaenllaw o amryw bwyllgorau’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn arweinydd Meibion Menlli, un o bartïon cerdd dant mwyaf blaenllaw Cymru.

Graddiodd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn gweithio fel athro ym Mhenbedw ac yna yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug, lle daeth yn brifathro yn y pen draw.

Roedd ganddo MA a PhD am ymchwilio i hanes cerdd dant.