Mae Andrew RT Davies wedi cyhoeddi pwy fydd yng nghabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, ar ôl iddo gael ei benodi’n arweinydd.
Mae’n dweud bod y cabinet “wedi’i adeiladu ar seiliau cadarn profiad, talent a gweledigaeth”.
Y rhai sydd wedi’u henwi yw:
- Mark Isherwood (Cyllid, Gogledd Cymru a Phrif Chwip)
- Angela Burns (Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol)
- Russell George (Economi, Trafnidiaeth a Chanolbarth Cymru)
- Suzy Davies (Addysg, Sgiliau a’r Gymraeg)
- Janet Finch-Saunders (Yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig)
- Laura Anne Jones (Tai a Llywodraeth Leol, Cydraddoldeb, Plant a Phobol Ifanc)
- David Melding (Iechyd Meddwl, Lles, Diwylliant a Chwaraeon)
“Rydyn ni mewn eiliad sy’n wahanol i’r un eiliad arall, ac mae pandemig COVID-19 ond wedi taflu goleuni ar yr heriau ym mywydau bob dydd pobol; heriau sydd wedi’u gwneud yn fwy anodd gan ugain mlynedd o fethiannau Llywodraeth Lafur Cymru,” meddai’r arweinydd newydd.
“Ddylen ni ddim amau potensial ein gwlad.
“Mae Cymru’n llawn pobol uchelgeisiol a chymunedau sy’n ysu am y cyfle i lwyddo, ond mae llywodraethau Llafur olynol wedi ein dal ni’n ôl.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau cael Cymru i symud a datgloi potensial ein gwlad a byddwn ni’n cyflwyno’r weledigaeth honno i’r bobol ar Fai 6.”