Mae Andrew RT Davies wedi’i benodi’n arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, gan ddweud bod cael ei benodi’n “fraint ac anrhydedd fawr”.

Mae’n olynu Paul Davies, sydd wedi camu o’r neilltu yn sgil ei ran mewn helynt yn ymwneud ag aelodau  yn yfed alcohol yn y Senedd.

Daeth ei gyfnod cyntaf wrth y llyw i ben ar ôl saith mlynedd yn 2018.

“Mae dod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig unwaith eto’n “fraint ac anrhydedd fawr, a dw i’n falch o fwynhau cefnogaeth unfrydol fy nghydweithwyr i fynd â ni yn ein blaenau ar ôl ychydig ddiwrnodau anodd i ni gyd,” meddai’r arweinydd newydd.

“Ar ran y Grŵp, hoffwn dalu teyrnged i Paul Davies am ei wasanaeth fel arweinydd.

“Nid yn unig mae Paul yn gydweithwyr, ond hefyd yn ffrind rwy’n ymddiried ynddo, sydd wedi gwasanaethu ei etholwyr a’i blaid â rhagoriaeth, ac a fydd yn parhau i wneud hynny.”

‘Y gwaith brys o’n blaenau’

“Mae gwaith brys o’n blaenau ni i gyd a byddwn ni’n canolbwyntio ar unwaith ar ddwyn y weinyddiaeth Lafur yn y Senedd i gyfri ar faterion hanfodol megis cyflwyno’r brechlyn, a brwydro etholiad Mai ochr yn ochr â’n llechen wych o ymgeiswyr a gwirfoddolwyr ymroddedig,” meddai wedyn.

“Rydym mewn eiliad nad yw fel yr un arall, ac mae’r pandemig COVID-19, yn drist iawn, wedi taflu goleuni ar yr heriau ym mywydau pob dydd pobol; heriau sydd yn fwy anodd gan ddegau o fethiannau Llywodraeth Lafur Cymru.

“O’n heconomi fregus i restrau aros cynyddol y Gwasanaeth Iechyd, mae pobol yng Nghymru wedi cael eu siomi’n fawr gan weinyddiaethau Llafur olynol.

“Gadewch i fi fod yn glir; nid datganoli yw’r broblem, ond y sosialwyr yn y Blaid Lafur, ac mae Cymru’n haeddu gwell.

“Ymhen ychydig dros 100 niwrnod, bydd y cyhoedd yng Nghymru’n mynd i’r blwch pleidleisio i benderfynu ar y dyfodol maen nhw ei eisiau ar gyfer ein gwlad ac yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynllun positif i gael Cymru’n symud eto ac i adeiladu ein gwlad drachefn yn well nag erioed.

“Bydd hwn yn etholiad anodd yn ystod cyfnod anodd i’n gwlad a lle mae’r pleidiau eraill eisiau defnyddio’r cyfnod hwn i rannu ac ymwahanu, byddwn yn ceisio uno’n gwlad a chyflwyno llais cryf i Gymru, mewn Deyrnas Unedig gref.”

Diolch i Paul Davies

Mae Janet Finch-Saunders, cadeirydd y Grŵp yn y Senedd, wedi croesawu Andrew RT Davies i’r swydd.

“Yn dilyn cyfarfod o Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd fore heddiw, rwy’n falch o gadarnhau bod Andrew RT Davies wedi cael sêl bendith unfrydol fel ein harweinydd newydd yn y Senedd,” meddai.

“Fel Cadeirydd y Grŵp, hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion rhagorol yn y swydd ers 2018.

“Chwaraeodd Paul ran allweddol yn ein Hetholiad Cyffredinol a dorrodd record yn 2019, tra’n gosod y seiliau ar gyfer etholiad y Senedd i ddod ym mis Mai.

“Mae ein sylw bellach yn troi at fis Mai a mynd â’r frwydr at y Blaid Lafur.”

‘Gwarthus’

Ond mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, wedi beirniadu’r penodiad.

“Wythnosau yn unig yn ôl, galwodd Llafur ar i’r Ceidwadwyr wahardd Andrew RT Davies a’i symud o’i rôl fel ymgeisydd ynghylch ei sylwadau gwarthus a pheryglus yn gosod dadl ddemocrataidd heddychlon yn y Deyrnas Unedig ochr yn ochr â’r trais marwol yn y Capitol yn yr Unol Daleithiau,” meddai.

“Fe wnaeth y Blaid Geidwadol fethu â gweithredu ac mae e wedi gwrthod ymddiheuro.

“Mae’n warthus fod y Ceidwadwyr Cymreig newydd ei benodi’n arweinydd ac yn ymgeisydd iddyn nhw ar gyfer Prif Weinidog Cymru.

“Mae pobol Cymru’n haeddu cymaint gwell na’r act teyrnged hwn i Donald Trump.”

Ac mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, hefyd wedi ymateb.

“Ar ôl gwrthdrwiad car, mae’r gyrrwr sedd ôl i roi Cymru i fynd am yn ôl,” meddai.

 

Pen ac ysgwydd ar gefndir gwyn

Paul Davies yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Arweinydd a Phrif Chwip y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn ymddiswyddo ar ôl yfed alcohol yn y Senedd yn ystod gwaharddiadau cyfnod clo

 

Sesh yn y Senedd… er gwaethaf gwaharddiad ar werthu alcohol

Adroddiadau bod Paul Davies, Darren Millar, Nick Ramsay ac Alun Davies wedi bod yn yfed ar ystâd y Senedd