Mae gweinidogion Llywodraeth Prydain dan y lach ar ôl i’r Observer ddatgelu mai yn y DVLA yn Abertawe mae ymlediad mwya’r feirws mewn gweithle yng ngwledydd Prydain.

Mae mwy na 500 o achosion wedi’u cofnodi yn y ganolfan foduro yn nwyrain y ddinas, ac mae gweithwyr yn honni bod pobol â symptomau’n cael eu hannog i ddychwelyd i’r gwaith tra bod y cwmni wedi gwrthod ceisiadau gan bobol fregus i hunanynysu.

Mae Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, dan bwysau i egluro’r sefyllfa a pham nad yw’r gweithle’n dilyn y rheoliadau priodol er mwyn ceisio atal yr ymlediad.

Yn ôl cwyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd gweithwyr gais i ddiffodd yr ap profi ac olrhain oddi ar eu ffonau symudol “fel nad yw eu ffonau’n tincian”.

Mae absenoldebau yn sgil y feirws hefyd yn cael eu cofnodi fel absenoldebau salwch, gyda rhai yn derbyn rhybudd am fod i ffwrdd o’r gwaith am fwy na deng niwrnod.

Mae oddeutu 1,800 o staff wedi cael cais i ddychwelyd i’r ganolfan i brosesu ceisiadau, er bod 535 o achosion o’r feirws wedi’u cofnodi yno ers mis Medi.

Ymateb

Er gwaetha’r honiadau, mae’r DVLA yn mynnu bod diogelwch yn flaenoriaeth.

Maen nhw’n dweud bod staff sy’n gallu gweithio gartref yn gwneud hynny “yn unol â chyngor cyfredol y llywodraeth”.

Ond maen nhw’n dweud bod “natur hanfodol” eu gwaith yn golygu bod rhaid i rai o’u staff fynd i’r swyddfa.

Dywed yr Adran Drafnidiaeth eu bod nhw’n hyderus fod yna “brosesau cadarn” ar waith yn y DVLA.

Beirniadu

Mae’r ymgyrch Hazards, sy’n monitro diogelwch yn y gweithle, yn dweud bod yr ymlediad yn y DVLA yn “gywilyddus” ac yn “gwbl syfrdanol”.

“Dylai’r gweithwyr hyn fod wedi bod yn gweithio o bell, nid yn cael eu gwasgu i mewn i swyddfeydd,” meddai llefarydd.

“Maen nhw wedi cael eu rhoi mewn perygl o farwolaeth a salwch tymor hir – ac mae’r ymlediad yn mynd rhagddo.

“Gallai gweithredoedd y DVLA hefyd fod wedi lledu’r feirws yn Abertawe.”

Dywed undeb PCS ar ran staff y DVLA fod nifer o weithwyr yn ofni mynd i mewn i’r swyddfa, ac mae Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, wedi galw ar Grant Shapps i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Mae’n sgandal nad yw’r DVLA yn gwneud mwy i leihau’r niferoedd,” meddai.

“Rhaid i weinidogion ymyrryd a sicrhau bod y DVLA yn gwneud popeth allan nhw i alluogi staff i weithio gartref, a dod â gwasanaethau nad ydyn nhw’n hanfodol i ben dros dro.

Disgrifio’r olygfa

Mae’r Observer yn dyfynnu sawl gweithiwr sydd wedi disgrifio’r sefyllfa yn y DVLA.

Roedd un ohonyn nhw eisiau gweithio gartref, ond mae hi’n dweud bod staff yn “llawn ofn” ac yn “poeni” am y sefyllfa.

“Rydyn ni jyst yn aros am y farwolaeth gyntaf, dyna pa mor wael yw hi,” meddai.

Mae’n dweud bod tua 120 o bobol ar bob llawr yn yr adeilad, gyda dim ond un toiled yr un i ddynion a menywod, a phedair cegin i bawb ar bob llawr.

“Mae’r timau i gyd yn rhannu’r cyfleusterau – mae’n risg uchel,” meddai. “Mae achosion ar bob llawr nawr.”

Effaith y sefyllfa ar weithwyr

Yn ôl yr un aelod o staff, mae pobol yn ofni staff y DVLA wrth iddyn nhw orfod mynd ar sawl bws i gyrraedd y gwaith.

“Fydd pobol ddim yn mynd i mewn i siopau os yw staff y DVLA yno oherwydd maen nhw’n ofni ei ddal oddi wrthym ni,” meddai.

“Mae gyda fi deulu nad ydw i wedi gallu ymweld â nhw oherwydd fy mod i’n gweithio yn y DVLA.”

Mae’n dweud bod nifer o staff i ffwrdd o’r gwaith dan straen erbyn hyn, a hynny yn sgil pryderon y gallen nhw golli eu swyddi pe na baen nhw’n mynd i’r gwaith.

‘Lledu fel tân’

Yn ôl aelod arall o staff, mae’r feirws “yn lledu fel tân” yn y DVLA.

“Mae llwyth wedi profi’n bositif,” meddai, “mwy nag y galla i eu cyfri.”

Fe fu’n rhaid iddo hunanynysu chwe gwaith, meddai, cyn ychwanegu nad oes gan weithwyr yr hawl i wisgo mygydau a bod rhaid iddyn nhw eistedd yn agos at ei gilydd.

“Rydyn ni’n eistedd gefn wrth gefn, metr yn unig ar wahân,” meddai.

“Maen nhw’n dweud bod y rheol dwy fetr ond yn berthnasol os ydych chi wyneb yn wyneb.”

Yn ôl Tonia Antoniazzi, aelod seneddol lleol, mae hi’n cael ei “bombardio” â chwynion gan weithwyr am y sefyllfa.

“Ond mae yna ddiwylliant o ofn, mae pobol yn ofni lleisio barn,” meddai, gan ychwanegu bod systemau technoleg gwybodaeth y DVLA mor hen fel nad oes modd i weithwyr weithio o gartref.

“Diffyg buddsoddiad gan y Llywodraeth sydd wedi achosi’r broblem hon,” meddai.

Ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru

“Y perygl mwyaf y daethon ni o hyd iddo yw agosatrwydd, fod pobol yn rhy agos at ei gilydd,” meddai Siôn Lingard o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Lle cawson ni glystyrau, mae hynny mewn grwpiau eithaf penodol,” meddai.

“Mae [yn digwydd] lle bu sesiwn hyfforddi neu lle mae rhywun yn cael ei fentora mewn swydd, neu mewn grwpiau o amgylch desg.

Mae ffatri prosesu ym Môn hefyd ymhlith y gweithleoedd gwaethaf am achosion o’r feirws, gyda 217 o achosion wedi’u nodi gan swyddogion iechyd cyhoeddus fis Mehefin y llynedd.

Ailagor ffatri 2 Sisters Ynys Môn

Mae’r safle wedi bod yn ganolbwynt covid-19