Mae William Powell, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Maesyfed yn etholiadau’r Senedd, yn dweud y “dylem uno i ddyblu ein hymdrechion yn erbyn y feirws, cefnogi ein Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr allweddol eraill”.
Daw ei sylwadau wrth iddo groesawu ymddiswyddiadau Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Darren Millar yn dilyn eu rhan mewn helynt yn ymwneud ag yfed alcohol yn y Senedd yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.
“Mae Paul Davies a Darren Millar bellach wedi gwneud y peth cywir wrth gamu o’r neilltu, i alluogi’r broses briodol i fynd rhagddi, o fewn Cyngor Caerdydd ac o fewn y Senedd,” meddai mewn datganiad.
“Tra bod angen i’r ddau ohonyn nhw fyfyrio ar ddigwyddiadau diweddar a dysgu oddi wrthyn nhw, rhaid rhoi’r cyfle i’r Ceidwadwyr Cymreig fynd ati i ddewis arweinydd dros dro i fynd â’u plaid yn ei blaen i etholiadau’r Senedd sydd ar y gorwel.
“Mae schadenfreude yn un o nodweddion anneniadol ein gwleidyddiaeth bresennol a dw i ddim eisiau unrhyw ran ynddi.
“Yn syml iawn, bydda i’n cydweithio â’m cydweithwyr yn y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru i ddal Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfri ar reoli’r pandemig.
“Mae fy nhaith salwch ac adferiad Covid-19 innau yn ein hatgoffa y dylem uno i ddyblu ein hymdrechion yn erbyn y feirws, cefnogi ein Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr allweddol eraill, ac ymdrechu i wneud y peth cywir.”