Er iddo dderbyn cefnogaeth unfrydol cyd-aelodau ei blaid yn y Senedd ddoe, mae Paul Davies wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw hyn ar ôl adroddiadau ei fod ef ac aelodau eraill o’r Senedd wedi bod yn yfed alcohol yn y Senedd ddyddiau ar ôl i waharddiad ar alcohol o safleoedd trwyddedig ddod i rym ledled Cymru.
Meddai Paul Davies mewn datganiad:
“Mae’n wir ddrwg gen i am fy ngweithredoedd ar Ragfyr 8 a 9. Maen nhw wedi difrodi’r ymddiriedaeth a’r parch dw i wedi eu datblygu dros 14 mlynedd yn Senedd Cymru gyda’m cydweithwyr a’r Blaid Geidwadol yn ehangach, ond yn bwysicach ymhlith pobl Cymru.
“Yr hyn a wnaethon ni oedd cael rhywfaint o alcohol gyda phryd y gwnaethon ni ei dwymo mewn meicrodon, a oedd yn ddau wydraid o win ar y dydd Mawrth a chwrw ar y dydd Mercher. Wnes i ddim torri unrhyw reoliadau penodol Covid-19.
“Dywedais ddoe wrth y grwp Ceidwadwyr yn Senedd Cymru fy mod i’n dymuno ymddiswyddo, ond fe wnaethon nhw bwyso arnaf i feddwl ymhellach, ac fe wnaethon ni gytuno i gyfarfod eto ddydd Llun. Fodd bynnag, er mwyn fy mhlaid, fy iechyd a’m cydwybod fy hun, alla’ i ddim parhau yn y swydd.
“Felly, dw i’n ymddiswyddo ar unwaith fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru.”
Darren Millar yn ymddiswyddo fel Prif Chwip
Mae’r Prif Chwip hefyd, Darren Millar, a oedd gyda Paul Davies ar y ddau achlysur, wedi ymddiswyddo o fainc flaen y Ceidwadwyr Cymreig.
“Er imi gael fy nghynghori na wnes i dorri rheoliadau coronafeirws, mae’n ddrwg iawn gen i am fy ymddygiad, yn enwedig yn wyneb effaith y cyfyngiadau llym mae pobl a busnesau’n eu dioddef,” meddai.
“Am y rheswm hwn, a chan fod Paul Davies wedi ymddiswyddo fel arweinydd yn y Senedd, dw i wedi penderfynu camu i lawr o’r fainc flaen yn Senedd Cymru. Dw i’n cydweithredu’n llawn â’r ymchwiliadau presennol a byddaf yn parhau i wneud hynny.”
❝ Gwleidydd Torïaidd yn syrthio ar ei fai…