Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i adroddiadau am ail noson o yfed yn y Senedd.

Mae adroddiadau fod Paul Davies AoS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Darren Millar AoS wedi bod yn yfed yn Ystafell De Tŷ Hywel ar Ragfyr 9 yn ogystal â Rhagfyr 8.

“Ni chafwyd noson o ddiodydd ar yr 8fed na’r 9fed o Ragfyr,” meddai Llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth ITV Cymru.

“Roedd trefniadau lluniaeth ysgafn ar gael i Aelodau’r Senedd ar Ragfyr 8 a 9.

“Defnyddiodd Paul Davies a Darren Millar y rhain ar y ddau ddyddiad a defnyddiodd Nick Ramsay nhw ar yr 8fed.”

Mae cyfreithiwr Nick Ramsay AoS wedi dweud ei fod yn yr Ystafell De ar Ragfyr 8, ond ei fod yn eistedd ar ei ben ei hun yn gymdeithasol bell yn bwyta “cyri cyw iâr” a’i fod wedi gadael am 8 yr hwyr.

“Mae unrhyw awgrym bod parti diodydd tan 2 y bore ar Ragfyr 8, a bod pobl yn cwyno i gadw’r cyfleusterau ar agor yn anghywir a ddim yn wir,” ychwanegodd y llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Ni wnaeth yr aelodau dan sylw dorri rheoliadau coronafeirws ond maent wedi ymddiheuro am unrhyw argraff negyddol a allai fod wedi’i rhoi.

“Maent yn cydweithio’n llawn a’r ymchwiliad a byddant yn parhau i wneud hynny.”

Ddydd Gwener, Ionawr 22, daeth Comisiwn y Senedd i’r casgliad fod y gwleidyddion fu’n yfed yn y Senedd o bosib wedi torri rheolau.

“Cefnogaeth unfrydol” i Paul Davies

Cyn yr adroddiadau am yr ail noson, dywedodd datganiad gan gadeirydd grŵp Ceidwadwyr Cymru yn Senedd Cymru, Janet Finch Saunders, ei bod yn rhoi “cefnogaeth unfrydol” i Paul Davies.

“Fe wnaeth Grŵp Ceidwadwyr Cymru gyfarfod heddiw i drafod digwyddiadau yn cynnwys tri aelod o’r Grŵp ar yr 8fed o Ragfyr,” meddai’r datganiad.

“Estynnodd y Grŵp ei gefnogaeth unfrydol i Paul Davies barhau yn ei swydd fel Arweinydd y Grŵp.”

Mewn datganiad cynharach ar ran Paul Davies, Darren Millar a Paul Smith, pennaeth staff y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd y ddau AoS eu bod “yn flin iawn gennym am ein gweithredoedd”.

“Tra na wnaethon ni dorri’r rheolau, rydym yn cydnabod na fyddai’r hyn oedd yn rhan o’r diwrnod gwaith yn cael ei weld yn dilyn eu hysbryd, yn enwedig o ystyried yr amser anodd mae’r wlad wedi bod yn mynd drwyddo,” meddai’r datganiad.

Gofyn i’r Comisiynydd Safonau ymchwilio i AoSau’n yfed yn y Senedd

Comisiwn y Senedd yn dod i’r casgliad fod y criw fu’n yfed yn y Senedd o bosib wedi torri rheolau

Dylai’r Ceidwadwyr wahardd aelodau a fu’n yfed yn y Senedd, meddai Mark Drakeford

Ond y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi “cefnogaeth unfrydol” i Paul Davies