Mae clinigwyr rheng flaen wedi rhoi cipolwg ar yr effaith y mae ail don Covid-19 yn ei chael ar gleifion ac ar staff.

Maent yn dweud bod y cleifion sy’n dod i ofal dwys yn Ysbyty Treforys yn Abertawe yn fwy sâl nag yn ystod y don gyntaf.

Mae’r rhan fwyaf o’r cleifion cymorth anadlu dwys yn bobl o oedran gweithio ac nid oes ganddynt unrhyw gyflyrau meddygol sylweddol, meddai’r clinigwyr, gan ychwanegu y bydd “y rhan fwyaf ddim yn goroesi”.

Dywedodd yr ymgynghorydd gofal dwys John Gorst: “Weithiau rydym wedi gweld llawer o gleifion yn marw yn yr un shifft 12 awr.

“Mewn ambell gyfnod o 12 awr rydym wedi colli hyd at bum claf coronafeirws.

“Fel arfer rydym yn disgwyl gweld, ar gyfartaledd, un claf y dydd yn marw yn yr uned gofal dwys. Mae cael pump yn marw ar un diwrnod yn ddigynsail.

“Mae hynny wedi bod yn frwydr wirioneddol i’w teuluoedd ac i’r staff. Mae wedi bod yn her wirioneddol i bawb sy’n gysylltiedig.

“Rydyn ni’n delio â hyn drwy fod yn dîm hynod gryf. Rydym yn gallu cyd-dynnu a dod drwy gyfnodau anodd fel y gallwn ganolbwyntio ar helpu’r teuluoedd hynny sydd wedi cael amser mor drawmatig – ond helpu’r cleifion sy’n aros gyda ni hefyd.”

Llawer mwy heriol na’r don gyntaf

Dywedodd Dr Gorst fod yr ail don wedi bod yn llawer mwy heriol na’r gyntaf – a’r gwahaniaeth mwyaf oedd bod cleifion yn fwy sâl nawr.

“Mae gennym driniaethau gwell ar gyfer coronafeirws nawr. Y nod yw cadw pobl allan o ofal dwys,” meddai.

“Oni bai am y driniaeth a roddir ar y wardiau, byddai gofal dwys wedi cael ei lethu’n llwyr.

“Fodd bynnag, pan fydd y triniaethau hyn yn aflwyddiannus… yn anffodus, o ran rhwyd ddiogelwch yr uned gofal dwys – hynny yw, y rhwyd ddiogelwch o’u cael ar beiriant anadlu mewnwthiol – nid yw’n gweithio, i raddau helaeth.

“Yn anffodus, ni fydd y rhan fwyaf y cleifion ar hyn o bryd sy’n dod i ofal dwys, i fynd ar beiriant anadlu dwys, yn goroesi.

“Mae’r cleifion hyn o oedran gweithio yn bennaf. Nid oes ganddynt unrhyw gyflyrau meddygol sylweddol.

“Mae hyn yn estron i ni fel uned gofal dwys. Disgwyliwn i lawer mwy o’n cleifion oroesi. Nawr, dydyn nhw ddim.

“Mae hynny oherwydd ein bod yn gweld grŵp gwahanol o gleifion nad ydynt yn ymateb i’r driniaeth, yn anffodus.”

‘Ein her fwyaf’

Un o’r agweddau anoddaf ar y colledion hyn yw na all perthnasau fod gyda chleifion.

“Nid yw teuluoedd yn gallu gweld anwyliaid ac rydym yn gorfod cael sgyrsiau erchyll dros y ffôn gyda nhw,” meddai Dr Gorst.

“Dyna ein her fwyaf yn y don hon – teuluoedd yn deall pa mor ddifrifol wael ydyn nhw a phan fyddan nhw, yn anffodus, yn marw, mae’n anodd iawn i deuluoedd ddeall.

“Y sefyllfa anoddaf i bawb sy’n ymwneud â gofal dwys yw pan fydd claf yn marw er gwaethaf ymdrechion gorau pawb ac y gallai’r claf hwnnw fod ar ei ben ei hun.

“Yn amlwg, fel meddygon, nyrsys a’r tîm cyfan, fydden ni ddim eisiau hynny ac rydw i wedi eistedd gyda chydweithwyr nyrsio gyda chleifion yn eu munudau olaf i wneud yn siŵr nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

“Mae hynny’n rhywbeth y gallaf dawelu meddwl teuluoedd amdano – nid yw eich anwyliaid byth ar ei ben ei hun ar yr uned gofal dwys.”

Ategodd yr uwch-fatron Carol Doggett, pennaeth nyrsio meddygaeth, y teimlad hwnnw.

“Y peth mwyaf i ni yw absenoldeb teulu, yn enwedig ar ddiwedd oes, pan fydd nyrs yn camu i mewn ac yn dod yn berthynas agosaf, bron – y person sy’n eistedd yno ac yn dal ei law,” meddai.

Dywedodd Mrs Doggett fod y pwysau eithafol a gafwyd mewn gofal dwys wedi’i deimlo drwy’r ysbyty.

“Mae cleifion yn dod i mewn drwy’r adran achosion brys. Maen nhw’n fwy sâl. Mae nifer y cleifion mwy sâl wedi cynyddu’n bendant,” meddai.

“Mae hynny’n golygu eu bod yn cael cyfnod estynedig yn yr ysbyty.”