Mae gyrrwr bws wedi’i garcharu am ddwy flynedd a hanner am ladd academydd “addawol”, ac anafu myfyriwr arall yn ddifrifol, ar ôl i’w fws deulawr daro pont reilffordd.

Roedd Eric Vice, 64, yn gyrru’r bws i Brifysgol Abertawe pan darodd y dec uchaf y bont – a hynny ar ôl iddo benderfynu mynd oddi ar ei lwybr arferol i “ennill ychydig funudau”.

Roedd Jessica Jing Ren, 36, darlithydd gwadd o Brifysgol Huanghuai yn Tsieina, yn un o ddwsin o bobl a anafwyd yn y digwyddiad pan chwalodd y bont drwy ddec uchaf y bws – bu farw o’i hanafiadau 11 diwrnod yn ddiweddarach.

Ddydd Gwener, plediodd Vice yn euog yn Llys y Goron Abertawe i achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus – yn ogystal ag achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus mewn perthynas â’r myfyriwr Peirianneg Awyrofod, Richard Thompson, 20, a ddioddefodd anafiadau difrifol i’w wyneb.

Llwybr gwahanol

Dywedodd yr erlynydd Carina Hughes bod Vice wedi penderfynu dilyn llwybr gwahanol i’r arfer i Gampws y Brifysgol yn y Bae wrth gludo 21 o deithwyr – 13 ohonynt ar y dec uchaf – ar ôl dod ar draws traffig y bore ar 12 Rhagfyr 2019.

Dywedodd teithwyr fod y bws i’w weld yn hwyrach na’r arfer yn eu casglu mewn gwahanol arosfannau a bod Vice wedi gadael iddynt fynd ar y bws heb wirio tocynnau.

Dywedodd Ms Hughes fod Vice wedi gyrru heibio dau rybudd cyfyngu ar uchder ar lwybr a ddefnyddir gan fysiau unllawr y ddinas wrth iddo yrru at y bont gerrig ar Heol Castell-nedd.

Ond tarodd y bws y bont reilffordd ddur y tu mewn i’r bont gerrig gan chwalu drwy’r dec uchaf, wrth i deithwyr sgrechian a chael eu taflu ymlaen.

Ms Wren, darlithydd o Tsieina a oedd yn astudio ac yn ymchwilio yn y brifysgol, oedd yr unig berson oedd yn eistedd yn rhes flaen y dec uchaf. ac roedd ar ei ffôn adeg y ddamwain.

Disgrifiodd Kevin Young, enillydd medal aur Olympaidd o America a myfyriwr meistr a ddioddefodd glwyf i’w ben a thorri dwy asen, sut y bu iddo weld Ms Wren yn taro’r ffenestr flaen.

“Mae Mr Young yn dweud ei bod hi – yn araf – yn ceisio dweud rhai geiriau wrtho, ond nad oedd yn gallu clywed. Disgrifiodd ei fod yn dal ei llaw i geisio ei chysuro nes i’r heddlu a pharafeddygon gyrraedd,” meddai Ms Hughes.

Yna, syrthiodd Ms Wren, oedd yn fam i fab pum mlwydd oed, yn anymwybodol ac yn y pen draw cafodd ei thorri allan o’r bws 90 munud yn ddiweddarach gan ddiffoddwyr tân a’i chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gydag anafiadau i’w hasgwrn cefn, coesau, ac anaf difrifol i’r ymennydd.

Cytunodd ei theulu i dynnu’r cymorth bywyd 11 diwrnod yn ddiweddarach.

Ar ôl y ddamwain, dywedodd tystion fod Vice wedi mynd i fyny ac i lawr grisiau’r bws yn “gofyn i deithwyr a oeddent yn iawn” a hebrwng y myfyriwr Peirianneg Awyrofod, Mr Thompson, i lawr.

Collodd Mr Thompson ddannedd yn y ddamwain, yn ogystal â dioddef clwyfau difrifol ar ei wyneb, ond dywedwyd ei fod bellach yn “ymdopi’n dda ar y cyfan”.

“Camgymeriad trychinebus”

Dywedodd Vice wrth yr Heddlu yn y fan a’r lle ei fod wedi gyrru’n rheolaidd o dan y bont gyda bysiau unllawr yn y gorffennol, a phan darodd y rhan ddur o’r bont “roedd yn rhy hwyr”.

Dywedodd Ian Ibrahim, yn amddiffyn, fod Vice yn “ŵr bonheddig, caredig, ystyriol a thosturiol”, a bod ei benderfyniad i gymryd y llwybr gwahanol “yn ddi-os yn gamgymeriad trychinebus.”

Dywedodd y Barnwr, Geraint Williams, y byddai newid llwybr “wedi ennill dim ond munudau”.

Dywedodd: “Arweiniodd eich camgymeriad angheuol at farwolaeth academydd ifanc addawol.

“Arweiniodd yr oedi wrth deithio drwy ganol y ddinas at ddiffyg amynedd annodweddiadol – ond serch hynny sylweddol – ynoch.

“Y realiti amlwg yn yr achos hwn yw bod eich diffyg amynedd y diwrnod hwnnw wedi cipio’r gofal yr oeddech fel arfer yn ei ddefnyddio wrth yrru’n broffesiynol.”

Cafodd Vice o Ddyfnant, Abertawe, ei ddedfrydu i ddwy flynedd a chwe mis yn y carchar.

Cafodd hefyd ei anghymhwyso rhag gyrru am bum mlynedd a thri mis, ac ni fydd yn gallu gyrru heb gymryd prawf gyrru estynedig.