Cafodd teulu o dri eu hachub gan griw hofrennydd ar ôl cael eu dal gan lifogydd.
Cafwyd llifogydd o amgylch Afon Dyfrdwy yn dilyn glaw trwm Storm Christoph, gan adael teulu – dau oedolyn a phlentyn – yn sownd yn eu cartref ger yr Orsedd, Wrecsam, yn ôl Gwylwyr y Glannau.
Dywedodd yr asiantaeth fod y teulu wedi cael eu hachub nos Iau ar ôl aros wrth y to gyda “malurion yn disgyn” o’u cwmpas.
Cafodd preswylwyr eu symud o’u cartrefi ac mae nifer o rybuddion llifogydd wedi’u rhoi i’r rhai sy’n byw ger yr afon.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod criw wedi bod yn yr ardal ac wedi ceisio achub y teulu gan ddefnyddio cwch nos Iau.
Ond, oherwydd bod y cartref wedi ei ynysu gan ddŵr oedd yn llifo’n gyflym, ystyriwyd bod yr amodau’n rhy beryglus yn y tywyllwch.
Diogel ac yn iach
Yn fuan ar ôl 11 y nos, galwyd hofrennydd chwilio ac achub Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon.
Dywedodd y prif beilot Dave Kenyon: “Roedd hwn yn sefyllfa heriol o ran lle’r oedd y bobl.
“Roedden nhw ar silff wrth y to, gyda malurion yn disgyn ac yn cael eu golchi i ffwrdd o’u cwmpas.
“Rydym wrth ein bodd bod y tri wedi dod allan yn ddiogel ac yn iach, ac wedi’u trosglwyddo i ofal y gwasanaethau brys eraill.”