Mae miloedd o bobl wedi arwyddo deiseb sydd yn galw am ddod â’r defnydd o wersyll Penalun i gartrefu ceiswyr lloches i ben.

Mae elusennau wedi rhannu eu pryderon dro ar ôl tro am amodau y tu mewn i wersylloedd Penalun yn Sir Benfro a gwersyll Napier yng Nghaint.

Yn y dyddiau diwethaf, mae achosion o’r coronafeirws wedi taro’r safle yng Nghaint, ac mae deiseb a lansiwyd gan yr elusen ‘Freedom from Torture’ i wagio’r gwersylloedd wedi derbyn dros 9,000 o lofnodion ers bore dydd Gwener, Ionawr 22.

‘Arswydus’

“Mae cynlluniau [Llywodraeth y Deyrnas Unedig] i ymestyn y defnydd o wersylloedd i letya ceiswyr lloches yng nghanol pandemig yn arswydus,” meddai llefarydd ar ran yr elusen.

“Fe wnes i ffoi artaith a dod i’r Deyrnas Unedig fel ffoadur. Gan fy mod wedi ailadeiladu fy mywyd yma, rwy’n falch o draddodiad a dyletswydd Prydain o gynnig diogelwch i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth.

“Ond ni feddyliais erioed y byddwn yn gweld y diwrnod y mae Llywodraeth Brydeinig i bob pwrpas yn sefydlu gwersylloedd ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

“Mae argyfwng mawr yn datblygu yn y llefydd anniogel a pheryglus hyn.

“Mae gan lawer o’r bobl sydd wedi’u cadw yma systemau imiwnedd isel a phroblemau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â’r gamdriniaeth y maent wedi’i ffoi.

“Mae gan y Llywodraeth y pŵer i ddod â’r hunllef hon i ben yn awr. Gwagio’r baracs, cau’r gwersylloedd, achub bywydau.”

Mae’r Swyddfa Gartref yn mynnu bod y gwersylloedd yn “ddiogel, addas, ac yn cydymffurfio â rheolau Covid”.

Darllen mwy:

Prif Weinidog Cymru yn galw eto am ddod â’r defnydd o wersyll Penalun i gartrefu ceiswyr lloches i ben

“Mae’n annerbyniol bod y Swyddfa Gartref wedi methu dro ar ôl tro â mynd i’r afael â materion difrifol” meddai Mark Drakeford