Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru yn “hynod bryderus” am driniaeth ceiswyr lloches mewn gwersyll yn Sir Benfro, ac mae wedi galw am ymchwiliad annibynnol i’r sefyllfa yno.
Ers Medi 2020 mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio barics milwrol Penalun, ger Dinbych-y-Pysgod, yn wersyll ar gyfer 250 o geiswyr lloches.
Mae’r safle yn cael ei redeg gan gontractwyr Clearspring, ac mae yna bryderon bod y gwersyll – a adeiladwyd yn yr 1940au – yn anaddas ar gyfer y bobol sydd yno.
Mewn llythyr at y Brif Arolygydd Ffiniau a Mewnfudo, David Bolt, mae arweinydd y Blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi amlinellu ei phryderon.
Y llythyr
Yn ei llythyr mae’r Aelod Seneddol yn dweud bod y safle yn “hollol anaddas wrth ddelio â thywydd oer, ac wrth alluogi pellhau cymdeithasol”.
Ac mae’r ffaith bod y safle yn dal i gael ei ddefnyddio yn enghraifft, meddai hi, o “esgeulustod clir tuag at iechyd a lles y rheiny sydd yno”.
“Mae yna adroddiadau bod staff a gweithwyr i gyrff anllywodraethol sydd yn ymweld â’r gwersyll yn gorfod arwyddo cytundebau sy’n eu rhwystro rhag siarad am y gwersyll,” meddai yn y llythyr.
“Mae hynny’n peri gofid. Mae hynny, ochr yn ochr ag amharodrwydd y Swyddfa Gartref i rannu gwybodaeth allweddol am y safle yn golygu bod angen ymchwiliad annibynnol ar frys.”
Mwy am hyn