Mae cwmni Whitbread, perchennog Premier Inn, wedi cadarnhau y bydd yn cael gwared a 1,500 o swyddi wrth i’w gwerthiant haneru yn dilyn cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae’r grŵp, sydd hefyd yn berchen bwytai Beefeater a Brewers Fayre, wedi dweud bod gwerthiant yn eu gwestyau yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng 56% yn y 13 wythnos hyd at Dachwedd 26.

Dywed y cwmni eu bod wedi gorfod cael gwared a swyddi er mwyn torri costau ond bod nifer y diswyddiadau yn llai na’r 6,000 yr oedden nhw wedi’i ddarogan gan  fod mwy o weithwyr wedi cytuno i leihau eu horiau gwaith.

Yn ôl Whitbread roedd gwerthiant bwyd a diod wedi gostwng 54.4% ar draws y DU, a 74.9% yn yr Almaen.

Ond roedd gwerthiant yn eu gwestyau wedi gostwng cymaint a 66.4% yn y pum wythnos hyd at Ragfyr 31 wrth i’r cyfyngiadau gael eu tynhau.

Yn y DU mae dwy ran o dair o westyau’r cwmni ar agor ar gyfer busnes hanfodol a llety ar gyfer gweithwyr allweddol, tra bod eu bwytai i gyd wedi cau.

Dywed y grŵp eu bod yn gobeithio i’w gwerthiant wella yn y gwanwyn.