Mae Hufenfa De Arfon, sydd yn eiddo i ffermwyr Cymru, wedi cyhoeddi cynllun gwerth £14.4m i ehangu’r cwmni.

Bydd y cynlluniau yn arwain at gynnydd o 50% mewn cynhyrchiant caws ac yn creu 30 o swyddi newydd erbyn 2024.

Y bwriad yw cynyddu’r cynhyrchiant o 15,000 tunnell o gaws y flwyddyn i 23,000 tunnell ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £5m i’r cynllun uchelgeisiol.

Rhagwelir y bydd y twf yn cynyddu’r galw am laeth o 130m litr y flwyddyn i fwy na 200m litr, ac y bydd trosiant blynyddol y cwmni yn cynyddu o £60m y flwyddyn i dros £85m.

Sefydlwyd Hufenfa De Arfon, sydd a 134 o aelodau, dros 80 mlynedd yn ôl, ac mae pencadlys y cwmni yn parhau ar yr un safle ger Pwllheli.

‘Cam nesaf’

Eglurodd y rheolwr gyfarwyddwr Alan Wyn-Jones bod y buddsoddiad diweddaraf yn dilyn £11.5m a wariwyd yn 2016 ar gynhyrchu a phacio.

“Yn dilyn cam cyntaf ein buddsoddiad yn ôl yn 2016, rydym yn falch o gyhoeddi cam nesaf ein strategaeth twf busnes a fydd yn ein gwneud hyd yn oed yn fwy gwydn, effeithlon a chynaliadwy mewn diwydiant sy’n gystadleuol iawn,” meddai.

“Rydym wedi tyfu’n gryf yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’n gwerthiant yn dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf o £30m i £60m ac wedi cyrraedd capasiti cynhyrchu presennol y gwaith ar ôl buddsoddiad mawr yn ein cyfleusterau cynhyrchu a phacio caws craidd yn ôl yn 2016.

“Nid oes gennym ddiddordeb mewn tyfu er mwyn tyfu. Mae ein cynllun yn ymwneud â’n gwneud hyd yn oed yn fwy cystadleuol a phroffidiol ac felly’n fwy gwydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”