Mae disgwyl i brotestio barhau ger Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd heddiw (Dydd Iau, Ionawr 14) am y trydydd diwrnod yn olynol.

Daw hyn wedi i Mohamud Mohammed Hassan, 24 oed, gael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref ar ôl treulio noson yng ngorsaf yr heddlu.

Gorymdeithiodd protestwyr o ganol y brifddinas i’r orsaf heddlu brynhawn dydd Mawrth (Ionawr 12) cyn ail ymgynnull yno brynhawn dydd Mercher.

Cefndir

Yn dilyn aflonyddwch mewn tŷ ar Heol Casnewydd yn y Rhath cafodd Mohamud Mohammed Hassan ei gadw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd nos Wener, Ionawr 8, a’i ryddhau’n ddi-gyhuddiad y diwrnod canlynol.

Bu farw’n ddiweddarach nos Sadwrn, Ionawr 9.

Mae teulu MMohamud Mohammed Hassan yn honni iddo ddioddef ymosodiad tra roedd yn y ddalfa.

Mae tudalen gofund.me, sydd yn galw am atebion ynglŷn â’i farwolaeth wedi codi dros £40,000 ar gyfer ei angladd ac i dalu ffioedd cyfreithiol.

Mohamud Mohammed Hassan

Ymchwiliad annibynnol

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i’r farwolaeth.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru, dydd Mercher Ionawr 13, ei bod nhw wedi darparu’r holl fideo CCTV a fideo o gamerâu cyrff i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

“Rydym yn cydweithredu’n llawn â’r ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac yn rhoi’r holl wybodaeth a deunydd y maent wedi gofyn amdanynt,” meddai llefarydd ar ran y llu.

Ychwanegodd Heddlu De Cymru nad oedd modd rhyddhau’r cynnwys fideo tra bo’r Swyddfa Annibynnol yn ymchwilio.

Darllen mwy