Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dyn 24 oed fu farw yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, Ionawr 9, wedi bod yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd y noson cynt.

Disgrifiodd yr heddlu farwolaeth Mohamud Mohammed Hassan fel un “sydyn ac anesboniadwy”.

Yn ôl yr heddlu cafodd ei gymryd i’r ddalfa yn dilyn aflonyddwch ar Heol Casnewydd yn y Rhath nos Wener, Ionawr 8, cafodd ei ryddhau o’r ddalfa fore dydd Sadwrn.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi dweud ei bod yn asesu a oes angen iddi fod yn rhan o ymchwiliad.

Daw hyn yn dilyn honiadau gan berthnasau bod Mr Hassan wedi dioddef ymosodiad tra yn y ddalfa.

“Ni fyddwn yn gorffwys am eiliad nes bod gennym gyfiawnder”

Dywedodd ei fodryb, Zainab Hassan, wrth BBC Wales iddi weld Mr Hassan ar ol iddo gael ei ryddhau ddydd Sadwrn gyda “llawer o glwyfau ar ei gorff a llawer o gleisiau”.

“Doedd ganddo ddim y clwyfau hyn pan gafodd ei arestio a phan ddaeth allan o orsaf heddlu Bae Caerdydd, roedd ganddo nhw,” meddai.

“Nid oes dim a wnawn yn mynd i ddod ag ef yn ôl ond ni fyddwn yn gorffwys am eiliad nes bod gennym gyfiawnder.”

Mae marwolaeth Mr Hassan wedi cael sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda Black Lives Matter Caerdydd a’r Fro yn dweud mewn trydar eu bod am gael ymchwiliad “cyflym a thryloyw”.

Mae tudalen gofund.me, sydd yn galw am atebion ynglŷn a marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan, eisoes wedi codi bron i £10,000 ar gyfer ei angladd ac i dalu ffioedd cyfreithiol.

Treuliodd Mohamud Mohammed Hassan noson yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd cyn cael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref

Datganiad Heddlu De Cymru

“Cafodd yr heddlu eu galw gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i eiddo amlfeddiannaeth ar Heol Casnewydd, y Rhath, yn fuan ar ôl 10.30 yr hwyr [Ionawr 8],” meddai Heddlu De Cymru mewn datganiad.

“Roedd Mr Hassan wedi bod yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd y noson cynt yn dilyn aflonyddwch yn yr un eiddo.

“Cafodd ei arestio ar amheuaeth o dorri heddwch a’i ryddhau’n ddiweddarach, sef y drefn arferol ar gyfer y drosedd hon.

“Fe adawodd Mr Hassan y ddalfa tua 8.30 fore Sadwrn [Ionawr 9].

“Mae ei farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fel marwolaeth ar ôl cyswllt yr heddlu, ac rydym wedi trefnu bod swyddog cyswllt teuluol ar gael i gefnogi teulu Mr Hassan.

“Fel rhan o ymchwiliad Heddlu De Cymru mae fideo cylch cyfyng a fideo o gamerau caiff eu gwisgo eisoes wedi cael ei archwilio, a bydd yn parhau i gael ei archwilio.

“Bydd hyn yn helpu i sefydlu a deall beth ddigwyddodd.

“Nid yw canfyddiadau cynnar gan yr heddlu yn dangos unrhyw broblemau camymddwyn na grym gormodol.

“Rydym yn ymwybodol o’r adroddiadau helaeth ar gyfryngau cymdeithasol ond oherwydd yr ymchwiliad a’r atgyfeiriad parhaus i’r IOPC ni allwn wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.”

Bydd ymchwiliad post-mortem yn cael ei gynnal ar gorff Mohamud Mohammed Hassan ddydd Mawrth, Ionawr 12.