Gweithwyr trafnidiaeth hanfodol ddylai fod nesaf i gael eu brechu rhag y coronafeirws, medd undeb.

Mae’r Gymdeithas Staff Cyflogedig Trafnidiaeth (TSSA) wedi ysgrifennu at weinidogion trafnidiaeth ledled y Deyrnas Unedig yn dweud bod gweithwyr trafnidiaeth rheng flaen wedi “rhoi eu bywydau ar y lein” yn ystod y pandemig.

Dywedodd yr ysgrifennydd cyffredinol, Manuel Cortes, mai gweithwyr trafnidiaeth hanfodol ddylai fod nesaf i gael eu brechu, ar ôl grwpiau agored i niwed a gweithwyr gofal iechyd a gofal.

Dywedodd: “Gyda niferoedd achosion Covid yn codi’n sydyn mae’n ras i frechu pobl. Mae’n gwbl briodol mai grwpiau agored i niwed a gweithwyr gofal iechyd yw’r cyntaf i gael eu brechu. Ar ôl hynny, rydym am weld staff trafnidiaeth hanfodol yn cael y brechiadau sy’n achub bywydau.

“O gael gweithwyr allweddol i ysbytai a symud cyflenwadau hanfodol o amgylch y wlad, mae ein gweithwyr trafnidiaeth allweddol wedi cadw’r wlad i symud drwy’r pandemig. Mae llawer wedi colli eu bywydau i’r feirws ond maent yn parhau i wasanaethu’n ddewr yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng.

“Mae’n rhaid i ni frechu gweithwyr trafnidiaeth fel y flaenoriaeth nesaf ac rwy’n galw ar weinidogion trafnidiaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gefnogi’r cam pwysig hwn i ddiogelu ein rhwydweithiau trafnidiaeth.”