Mae bylchau’n ymddangos ar silffoedd ffrwythau a llysiau archfarchnadoedd yn sgil rhybuddion bod cyflenwadau’n cael eu gwasgu gan ‘fiwrocratiaeth Brexit’ mewn porthladdoedd.

Mae letys, blodfresych, orennau, mefus, mafon a llus wedi’i rhestru fel “allan o stoc” mewn rhai ardaloedd ar wefan Tesco.

Yn y cyfamser, mae arbenigwyr y diwydiant bwyd a gweinidog y Cabinet sy’n gyfrifol am Brexit, Michael Gove, wedi rhybuddio bod problemau yn y porthladdoedd yn debygol o waethygu.

“Mae’r anhrefn wedi dechrau. Mae trefnu hyd yn oed y llwyth symlaf i Ewrop wedi dod yn dasg sydd bron yn amhosibl oherwydd y mynydd o fiwrocratiaeth a gyflwynwyd ar Ionawr 1,” meddai’r arbenigwr cludo nwyddau, John Shirley.

Ac mae Cyfarwyddwr Gweithredol Llwyfan Masnach Geneva, Dmitry Grozoubinski, yn gweld bai ar y Llywodraeth am beidio “caniatáu amser yn briodol ar gyfer, galluogi, hysbysu a chefnogi paratoadau ar gyfer y newid mwyaf mewn busnes mewn degawdau”.

“Tarfu ychwanegol sylweddol” yn yr wythnosau i ddod

Dywedodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd fod tagfeydd eisoes yn bodoli, ac maen nhw’n rhybuddio y bydd y sefyllfa’n gwaethygu.

Mae’r grŵp yn amcangyfrif fod un o bob pump o’r 2,000 o lorïau ddaeth drwy Dover a Thwnnel y Sianel yr wythnos ddiwethaf wedi’u troi’n ôl.

Dywedodd y bydd problemau’n cynyddu wrth i’r niferoedd hyn gynyddu i 6,000 y dydd, fel yr arfer.

“Mae gyrwyr yn cael eu troi’n ôl am amryw o resymau, gan gynnwys peidio â chael prawf Covid dilys, ac yr un pryd, maent yn cael gwybod nad yw’r gwaith papur wedi’i gwblhau’n foddhaol,” meddai rheolwr gyfarwyddwr polisi’r Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd, Rod McKenzie.

Dywedodd Michael Gove: “Yn yr wythnosau i ddod, rydym yn disgwyl y bydd tarfu ychwanegol sylweddol.”

‘Problemau amlycach yng Ngogledd Iwerddon nac yn Dover’

Yn y cyfamser, clywodd ASau San steffan fod problemau wedi bod yn fwy amlwg yng Ngogledd Iwerddon nag ym mhorthladd Dover, a hynny oherwydd negeseuon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fyddai ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain.

Dywedodd Elizabeth De Jong, cyfarwyddwr polisi Logistics UK, wrth ASau:

“Yn gyffredinol, bu diffyg ymwybyddiaeth uwch mewn busnesau – yr allforwyr a’r mewnforwyr – bod angen gweinyddu ar y ffin ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, er nad yw ffin yn bodoli’n swyddogol,” dywedodd Ms De Jong wrth ASau ar Bwyllgor Dethol y Trysorlys.

“Roedd y prif negeseuon yn ymwneud â’r ffaith nad oedd ffin, ond mewn gwirionedd mae angen i chi wneud gweinyddiaeth debyg i’r ffin.”

Problemau’n debygol o waethygu ym Mhorthladd Caergybi

Mae Llywodraeth Cymru wedi atgoffa cludwyr i fod yn barod ar gyfer y newidiadau ym Mhorthladd Caergybi.

Er mwyn cludo nwyddau o’r Deyrnas Unedig i Iwerddon, gan gynnwys o borthladdoedd Cymru, mae angen Hysbysiad Cyn Byrddio (PBN) ar gludwyr oddi wrth Gyllid Iwerddon.

Ni fydd cludwyr yn cael mynd ar y fferi hebddo – a chyda disgwyl i’r traffig cludo llwythi gynyddu, gallai mwy o gludwyr gael eu gwrthod.

Ers Ionawr 1af mae tua 20 y cant o’r cerbydau nwyddau trwm wedi’u gwrthod oym Morthladd Caergybi am nad oes ganddynt y gwaith papur cywir.

Wrth i draffic gynyddu, mae rhagolygon Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweld y gallai rhwng 40% a 70% o gludwyr gael eu gwrthod mewn porthladdoedd.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd cludwyr heb y gwaith papur cywir yn cael eu hailgyfeirio ar hyd y gwrthlif ar yr A55 i Gyffordd 4 lle y byddant yn troi i ffwrdd ac yn ymuno â’r ffordd tua’r gorllewin.

Yna, byddant naill ai’n cael eu gosod mewn rhes tra y byddant yn rhoi trefn ar eu gwaith papur, neu’n cael eu hailgyfeirio i Barc Cybi.

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae llawer o gludwyr yn barod ar gyfer y newidiadau sydd bellach ar waith o ganlyniad i ddiwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd.

“Rwy’n annog yr holl gludwyr a chwmnïau sy’n cludo nwyddau o borthladdoedd Cymru i Iwerddon ymgyfarwyddo â’r broses.

“Mae ein cynlluniau wrth gefn yno i leihau problemau i’r porthladd ei hun a’r gymuned ehangach. Maent ar waith ac yn barod i gael eu defnyddio yn ôl y galw.

“Wrth inni nesáu at ganol mis Ionawr byddwn yn cyrraedd adeg brysurach ar gyfer cludo llwythi yn y porthladd. Byddwn yn parhau i adolygu ein cynlluniau.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi:

“Er bod cynlluniau wrth gefn ar waith, byddwn […] yn gofyn i drigolion a busnesau lleol gadw mewn cof yr effaith y gallai unrhyw dagfeydd traffig posibl yn ardal Caergybi ac ar yr A55 ei chael ar eu bywydau a’u harferion dyddiol, a chynllunio unrhyw deithiau hanfodol yn unol â hynny.”