Bydd y penderfyniad i newid y bwlch rhwng dau ddos y brechlyn Pfizer “yn osgoi mwy o farwolaethau”, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn deall bod rhai yn pryderu ond ei fod yn credu mai dyma’r “dewis iawn i’w wneud”.

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnig yr ail frechlyn ar ôl 21 diwrnod ond mae’r Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio bellach wedi newid hyn i 12 wythnos.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bydd yr holl oedolion yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn yr hydref.

Yn dibynnu ar gyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio gall tua 2.5m o bobl ledled Cymru gael cynnig brechlyn Covid erbyn mis Medi.

‘Diogelu dau berson yn hytrach nag un’

“Mae pob un o’r brechlynnau yn darparu lefel uchel o ddiogelwch rhag niwed gan y coronafeirws,” meddai Vaughan Gething.

“Mae hynny’n newyddion da iawn i bob un ohonom.

“Mae’r ail ddos yn bwysig gan ei fod yn cael rhywfaint o effaith ar wella’r amddiffyniad ond, yn benodol, credwn y bydd yn darparu amddiffyniad tymor hir hefyd.

“Meddyliwch amdano fel hyn – os oes gennych ddau ddos o’r brechlyn ar gael gallech ddewis rhoi hynny i un person i roi amddiffyniad rhagorol llawn iddynt, neu gallech benderfynu rhoi dau ddos i ddau berson gwahanol i roi amddiffyniad lefel uchel i’r ddau ohonynt.

“Dyna’r cyngor rydyn ni wedi’i gael.

“Mae hynny’n golygu y byddwn mewn gwirionedd yn amddiffyn mwy o bobl, yn lleihau faint o bobol sy’n mynd i’r ysbyty a’r cyngor clir rwyf wedi’i gael yw y bydd yn osgoi mwy o farwolaethau.”

Ystyriwch gadw masgiau wyneb ymlaen rhwng siopau, medd Mr Gething

Yn yr un gynhadledd, dywedodd y Gweinidog Iechyd y dylai pobl ystyried cadw eu mygydau ymlaen mewn mannau cyhoeddus os ydyn nhw allan.

Byddai’n “haws” peidio â thynnu gorchudd wyneb wrth symud rhwng siopau hanfodol, meddai Vaughan Gething.

Ddydd Llun, dywedodd Mr Gething ei bod yn “bwysicach nag erioed” dilyn cyngor hylendid.

Dywedodd fod hyn yn cynnwys cadw pellter oddi wrth eraill, golchi dwylo’n aml, a sicrhau awyru da dan do, ac ychwanegodd: “Ac os oes rhaid i ni fynd allan, gwisgo masg wyneb pan fyddwn mewn mannau cyhoeddus.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn argymell bod pobl yn gwisgo mygydau wyneb ym mhob man cyhoeddus awyr agored, dywedodd Mr Gething: “Na, oherwydd dylem fod yn gymdeithasol bell oddi wrth bobl eraill.

“Ond pan fyddwch chi’n mynd allan … pan fyddwch chi’n mynd i fannau dan do os ydych chi’n siopa bwyd, os ydych chi’n mynd i leoedd y gallwch chi fynd iddyn nhw, yna [dylid] atgoffa pobl i wisgo masg wyneb wrth wneud hynny.

“Os ydych chi’n mynd i fwy nag un [siop] … yna mae’n haws i rywun gadw eu gorchuddion wyneb ymlaen.”

Ychwanegodd: “Does dim newid yn y cyngor cyffredinol rydyn ni’n ei ddarparu. Ond mae hyn yn rhan o’r hyn y gallwn i gyd ei wneud i amddiffyn ein hunain … Rwy’n credu bod atgyfnerthu’r neges honno’n beth da.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd sylwadau Mr Gething yn newid yng ngarweiniad Llywodraeth Cymru, sy’n nodi: “Nid argymhellir gwisgo gorchuddion wyneb yn yr awyr agored, lle mae trosglwyddo’r feirws yn isel, oni bai mewn sefyllfa lle mae ymbellhau cymdeithasol o ddau fetr yn amhosibl.”

Darllen mwy: