Mae’r chwilio am flychau du awyren Sriwijaya Air wedi dwysau heddiw (Dydd Llun, Ionawr 11) er mwyn ceisio darganfod beth achosodd i’r awyren, oedd yn cludo 62 o bobl, i blymio i Fôr Jafa.

Fe ddiflannodd yr awyren Boeing 737-500 funudau’n unig ar ôl gadael Jakarta, prifddinas Indonesia, yn ystod glaw trwm ddydd Sadwrn (Ionawr 9). Hyd yn hyn mae darnau o’r awyren wedi’u darganfod a gweddillion dynol ond does dim arwyddion bod unrhyw un wedi goroesi ar hyn o bryd.

Yn ôl yr awdurdodau roedd signalau o’r blychau du wedi’u cofnodi rhwng Lancang ac Ynysoedd Laki i’r gogledd o arfordir Jakarta.

Mae mwy na 20 o hofrenyddion, 100 o longau’r llynges a chychod, a 2,500 o dimau achub wedi ymuno a’r chwilio ers dydd Sul ac wedi darganfod rhannau o’r awyren mewn dŵr o ddyfnder o 75 troedfedd.

Fe allai’r blychau du gynnwys gwybodaeth werthfawr i’r timau sy’n ymchwilio i’r ddamwain.