Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bydd yr holl oedolion yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn yr hydref.

Fe fu’n cyhoeddi cynllun brechu Covid newydd Llywodraeth Cymru mewn cynhadledd heddiw (Ionawr 11).

Hyd yma mae 86,000 o bobl wedi cael y brechlyn yn ystod pum wythnos gyntaf y rhaglen.

Yn dibynnu ar gyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio gall tua 2.5m o bobl ledled Cymru gael cynnig brechlyn Covid erbyn mis Medi.

Fodd bynnag mae’r cynllun yn dibynnu ar gyflenwadau digonol a rheolaidd o’r brechlynnau yn cael eu dosbarthu.

Mae’r cynllun yn nodi tair carreg filltir:

  • Erbyn canol mis Chwefror bydd y canlynol wedi cael cynnig brechlyn
    • Preswylwyr a staff cartrefi gofal
    • Staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
    • Pawb dros 70 oed
    • Pawb sy’n eithriadol agored i niwed yn glinigol
  • Erbyn y gwanwyn
    • Cynnig y brechlyn i bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sylfaenol.
  • Erbyn yr hydref
    • Bydd brechlyn wedi’i gynnig i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru.

‘Gobaith i ddychwelyd i normalrwydd’

“Brechlynnau Covid sy’n cynnig y gobaith gorau i ni i ddychwelyd i’r normalrwydd,” meddai’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

“Mae darparu’r rhaglen frechu hon i 2.5 miliwn o bobl yng Nghymru yn dasg enfawr ond mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i wneud hyn yn llwyddiant.

“Rydym yn gwneud cynnydd da gyda miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu brechu bob dydd.

“Yn ystod yr wythnos sydd i ddod byddwn yn gweld y rhaglen yn cyflymu ymhellach gyda mwy o glinigau’n agor a’r brechlynnau cyntaf yn cael eu rhoi gan fferyllwyr.”

Gyda chymorth milwrol bydd nifer y canolfannau brechu torfol yn cynyddu i 35 yn ystod yr wythnosau nesaf, gydag o leiaf un ym mhob sir yng Nghymru.

Bydd y fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru hefyd yn dechrau darparu brechlyn Oxford-AstraZeneca yn ystod yr wythnos nesaf.

Mae gan Gymru 14 uned symudol fydd yn cludo’r brechlyn i gartrefi gofal, a bydd 250 o ganolfannau iechyd yn cynnal clinigau erbyn diwedd yr wythnos.

‘Rhaglen frechu fwyaf erioed’

“Bydd pobl yn cael eu gwahodd i ddod i gael brechlyn mewn clinig yn agos i’w cartref neu yn un o’r canolfannau brechu torfol,” meddai Dr Gillian Richardson, sy’n arwain rhaglen frechu Covid yng Nghymru.

“Dyma’r rhaglen frechu fwyaf erioed yng Nghymru ac mae’r GIG yn gweithio’n eithriadol galed i gael y brechlyn i gymaint o bobl a phosib, yn ddiogel a cyn gynted ag y gallwn ni.

“Bydd brechu’n rhoi llwybr i ni allan o’r pandemig yma ond bydd yn cymryd ychydig o amser i ni ddiogelu pawb yng Nghymru sydd ei angen– dyma pam ei bod mor bwysig bod pawb yn parhau i gymryd camau i ddiogelu eu hunain a’u teuluoedd rhag y coronafeirws.”

“Ar ei hôl hi o’i chymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig”

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn beirniadaeth bod Cymru ymhell y tu ol i weddill y Deyrnas Unedig.

Fe gyhoeddodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon bod cyfanswm o  163,377 o bobl yn yr Alban wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn erbyn dydd Sul, Ionawr 10. Ychwanegodd bod 1,100 o safleoedd brechu yn weithredol bellach – y rhan fwyaf mewn meddygfeydd a chanolfanau cymunedol.

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, galwodd Andrew RT Davies, gweinidog iechyd cysgodol Ceidwadwyr Cymru, am benodi gweinidog brechu.

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Wales Today fod Llywodraeth Cymru wedi cael “dechrau anesmwyth” i’w rhaglen frechu.

“Os oes gennych weinidog brechu penodol, yr unigolyn hwnnw fydd yn gyfrifol am yrru hyn ar draws Cymru, oherwydd rydym wedi gweld wythnos ar ôl wythnos, bellach, ein bod wedi bod ar ei hôl hi o’i chymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai Mr Davies.

“Mae’n rhaid i ni gael hyd at 100,000 o frechlynnau’r wythnos i sicrhau ein bod yn taro’r 700,000 o frechiadau erbyn canol mis Chwefror.”

‘Cyfran uwch o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth uwch’

Yn ei ymateb yntau, mae Adam Price AoS, Arweinydd Plaid Cymru, wedi galw am “gam i fyny” er mwyn trechu’r feirws.

“Mae cyhoeddi’r cynllun defnyddio brechlynnau yn gam cadarnhaol, ac mae’n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers tro byd.

“Nawr mae angen cam i fyny o ran cyflymder. Dywedwyd wrthym mai marathon yw hwn, nid sbrint, ond mae hynny’n gwneud yn fach o’r brys sydd ei angen ar hyn o bryd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef bod bwlch – nawr mae angen iddyn nhw ddweud wrthym beth maen nhw’n mynd i’w wneud i gau’r bwlch hwn rhwng Cymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

“Nid yw’r cynllun yn dweud wrthym eto sut y bydd y llywodraeth yn mynd o 86,000 o bobl yn cael eu brechu mewn 1 mis, i 1.6m o bobl yn cael eu brechu ‘erbyn y Gwanwyn’ – mae angen y manylion pendant hyn…

“Mae cwestiynau heb eu hateb hefyd ynglŷn â pham mae’r ymateb yng Nghymru wedi bod yn wahanol i weddill y Deyrnas Unedig, a pha wersi sydd wedi’u dysgu,” meddai.

“Gwyddom fod gan Gymru gyfran uwch o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth uwch, ac eto dim ond [ar sail] cyfran o’r boblogaeth yr ydym yn cael [y brechlyn].

“Mae’n rhaid i ni fod yn gynt na’r feirws ac i wneud hynny mae angen i ni allu gweld y ffordd yr ydym yn teithio ar ei hyd.”

Ffigurau coronafeirws diweddaraf Cymru

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 86,000 o bobl wedi cael y brechlyn yn ystod pum wythnos gyntaf y rhaglen. Bydd Cymru’n cyhoeddi ffigurau brechu dyddiol o heddiw (Dydd Llun) ymlaen.

Fe fu 1,793 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod a chyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau i 171,574, yn ôl ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw (Dydd Llun, Ionawr 11).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bu 17 o farwolaethau ychwanegol, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 3,981 yng Nghymru ers dechrau’r pandemig.