Nid yw Cymru “ar ei hôl hi” o gymharu â gweddill y DU o ran nifer y bobl sydd wedi derbyn brechlyn coronafeirws, meddai Mark Drakeford.

Mynnodd Prif Weinidog Cymru fod y wlad yn yr un lle, yn fras, â rhannau eraill o’r DU tra’n datblygu ei gallu i ddarparu’r brechlyn i fwy o bobl.

Dywedodd Mr Drakeford wrth Sky News fore Gwener nad sbrint na chystadleuaeth oedd cyflwyno brechiadau pan ofynnwyd pam mai dim ond 1.6% o’i phoblogaeth oedd Cymru wedi’u brechu hyd yma – 49,428 o bobl – o’i gymharu ag 1.9% yn Lloegr a 2.1% yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn y gynhadledd i’r wasg, fe wynebodd arweinydd Llafur Cymru gwestiynau unwaith eto am gyflymder y broses – gwadodd fod unrhyw broblem.

Dywedodd Mr Drakeford: “Rydyn ni’n sôn am ffracsiynau o un pwynt degol yma. Nid yw’n wir bod Cymru rywsut yn bell y tu ôl i weddill y Deyrnas Unedig, rydym i gyd gyda’n gilydd.”

Dywedodd fod gan Lywodraeth Cymru “gynllun pwrpasol iawn i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf posibl o bob dropyn o gyflenwad sy’n dod atom ni yma yng Nghymru.”

Ychwanegodd Mr Drakeford: “Rydym yn datblygu’n barod, byddwn yn ei ddatblygu ymhellach yr wythnos nesaf – mae miloedd o bobl yn cael eu brechu yng Nghymru heddiw.

“Dyna’r stori go iawn y mae angen i bobl yng Nghymru wybod amdani – penderfynoldeb ac ymrwymiad y GIG yma yng Nghymru i ddefnyddio pob dropyn o frechlyn sydd gennym, bod y cynlluniau ar waith i wneud hynny, ac y byddwn yn datblygu pethau o’r wythnosau cyntaf hyn i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar ein gallu i ddarparu’r rhaglen bwysig iawn hon i bobl yng Nghymru.”

Brechlyn newydd

Croesawodd y Prif Weinidog y newyddion am frechlyn Moderna’n cael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y DU – bydd ar gael yn y gwanwyn – gan ddweud ei fod yn gam ymlaen.

Dyma’r trydydd brechlyn sydd wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r pigiad, gan gwmni biotechnoleg yr Unol Daleithiau, wedi cael y golau gwyrdd gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) – gan ymuno â’r brechlynnau o Pfizer/BioNTech a Rhydychen/AstraZeneca.

Ond dywedodd Mr Drakeford na fyddai’n “hudlath” yn erbyn y feirws, ac y byddai pa mor gyflym y gellir rhyddhau Cymru rhag Covid o’r diwedd yn ddibynnol ar “ba mor gyflym y mae’r cyflenwadau hynny ar gael, yn erbyn pa mor gyflym y mae’r amrywiolyn newydd o coronafeirws yn lledaenu.”

Cyfran Cymru

Lywodraeth y DU sy’n caffael y brechlynnau ac mae Cymru’n cael ei chyfran o’r rheiny yn seiliedig ar faint ei phoblogaeth. Mae disgwyl i 25,000 dos o frechlyn AstraZeneca fod ar gael i Gymru ddechrau’r wythnos nesaf ac 80,000 dos yr wythnos ganlynol.

Ond dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn hysbys ar hyn o bryd faint o ddosau o frechlynnau Pfizer na AstraZeneca y byddai Cymru yn eu derbyn ar ôl y cyfnod hwnnw, gyda gwaith yn mynd rhagddo ar lefel Llywodraeth y DU i roi ffigwr dibynadwy.

Dywedodd Mr Drakeford fod hyn yn golygu nad oedd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gallu gosod targedau ar gyfer faint o bobl y dylid eu brechu o fewn cyfnodau penodol o amser.

Dywedodd ei fod yn rhannu “yr un uchelgais” â Boris Johnson i roi dosau cyntaf i bedwar prif grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror, ond dywedodd y byddai hynny’n dibynnu ar “gyflymu” y broses yn ogystal â’r prynu a’r dosbarthu gan San Steffan.

“Rwy’n hyderus y cawn gadarnhad … ac y cawn ein cyfran deg,” meddai Mr Drakeford.

Dywedodd y byddai gan Gymru 250 o feddygfeydd yn gweinyddu brechlynnau erbyn diwedd mis Ionawr, ac y bydd nifer y canolfannau brechu yn codi i 35. Ac ar hyn o bryd, roedd 14 o frechwyr o’r fyddin a 70 o bersonél y fyddin yn helpu gyda’r gwaith, yn ogystal â 14 uned frechu symudol, meddai.

Darllen mwy

Y math newydd o gorona yn “cynyddu’n gyflym” yn y gogledd

Mae ganddo “droedle cadarn” yn yr ardal, yn ôl y Prif Weinidog