Mae’r Prif Weinidog wedi rhybuddio bod yr amrywiolyn newydd o’r coronafeirws yn ychwanegu dimensiwn peryglus i’r pandemig.

Yn ôl Mark Drakeford mae gan y math newydd o’r coronafeirws “droedle cadarn” yn y gogledd, ac yn arafu’r cwymp yn achosion y feirws yng Nghymru.

Yn ystod cynhadledd i’r Wasg amser cinio ddydd Gwener, Ionawr 8, dywedodd fod achosion o’r feirws yn y gogledd yn “cynyddu’n gyflym”.

“Rydym yn disgwyl mai’r amrywiolyn newydd fydd ffurf amlycaf y feirws yn ne Cymru hefyd,” meddai.

“Ble bynnag mae cymysgu; lle bynnag y daw pobl at ei gilydd, mae’r straen newydd yn lledaenu – mae’n heintus iawn ac yn lledaenu’n gyflym iawn o berson i berson,” meddai.

Cadarnhaodd bydd y cyfyngiadau yn cael eu hymestyn am dair wythnos arall – bydd adolygiad nesaf y cyfyngiadau ar Ionawr 29.

Eglurodd Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i gryfhau mesurau lefel pedwar mewn tri maes penodol:

  • Archfarchnadoedd

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag archfarchnadoedd a manwerthwyr mawr i sicrhau bod pobl yn ddiogel pan fyddant yn mynd i siopa.

“Rwyf am weld o leiaf yr un lefel o ddiogelwch heddiw ag a oedd yn weladwy iawn yn nyddiau cynnar y pandemig,” meddai.

“Mae angen i’r rhai sy’n gweithio ac yn siopa mewn archfarchnadoedd fod yn hyderus bod nifer y bobl yn y siopau hynny’n cael eu rheoli’n ofalus ac yn gyson a bod yr holl fesurau eraill ar waith i’n cadw ni’n ddiogel.”

  • Y Gweithle

Er mai’r cyfarwyddyd yw gweithio o adref ble mae’n bosib, yr ail faes mae’r Llywodraeth yn dymuno gwella diogelwch yw’r gweithle.

“Mae’r math newydd hwn o’r feirws gymaint yn fwy heintus fel bod rhaid i ni edrych eto ar y mesurau diogelwch sydd ar waith i gadw Cymru’n ddiogel a gweithleoedd yn ddiogel, gan weithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur i wneud hynny.”

  • Ysgolion a cholegau

Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc nawr yn cael eu haddysgu ar-lein tan Ionawr 29.

Bydd ysgolion a cholegau yn parhau i ddysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror oni bai bod gostyngiad “sylweddol” mewn achosion.

Yn y cyfamser, bydd disgyblion sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol yn parhau i gael dysgu wyneb yn wyneb a bydd gofal plant yn parhau ar agor.

“Byddwn yn defnyddio’r wythnosau nesaf i weithio gyda’n gwyddonwyr, undebau ac awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer y dyfodol,” meddai.

“Rwyf am fod yn glir nad yw ysgolion a cholegau yn sydyn wedi mynd yn anniogel. Nid ydynt yn peri mwy o risg i athrawon na myfyrwyr.”

Ffigurau diweddaraf

Cofnodwyd 2,487 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru heddiw, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 165,721.

Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 56 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 3,857.

Roedd tua 440 o achosion i bob 100,000 o bobl yng Nghymru ddydd Llun, ond heddiw mae 20 pwynt yn uwch.

Mae mwy na 2,700 o gleifion sy’n gysylltiedig â choronafeirws yn derbyn gofal yn ysbytai Cymru.

Ac mae 143 o bobl â choronafeirws mewn gwelyau gofal dwys yng Nghymru – y nifer uchaf ers dechrau’r pandemig.

Hefyd mae 50,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi derbyn eu brechlyn Covid cyntaf.

Ac mae un o bob pedwar prawf Covid-19 yn brawf positif yng Nghymru.