Bydd Archesgob Cymru, John Davies, yn ymddeol ym mis Mai ar ôl pedair blynedd yn arweinydd yr Eglwys yng Nghymru.
Bu hefyd yn gwasanaethu fel Esgob Abertawe ac Aberhonddu am yr 13 blynedd diwethaf.
Yn ystod ei gyfnod yn Archesgob, arweiniodd John Davies yr Eglwys yng Nghymru wrth iddi gyrraedd ei chanmlwyddiant y llynedd, a hefyd wrth wynebu un o heriau mwyaf yn hanes yr Eglwys wrth ymateb i’r coronafeirws.
Gwneud yr Eglwys yn fwy ‘hygyrch a pherthnasol’
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd yr Archesgob John Davies ei bod hi wedi bod yn “fraint ac yn her” i wasanaethu fel Archesgob Cymru.
“Mae arwain yn fraint ac yn her. Yn ystod fy nghyfnod yn Esgob ac Archesgob rwyf wedi ceisio defnyddio’r cyntaf ac wynebu’r ail gyda gweledigaeth, dewrder ac amynedd, gan obeithio bob amser y byddwn yn sicrhau bod yr Eglwys yn fwy parod, ei bod yn cael ei deall yn well, ei bod yn llai o ddirgelwch ac yn fwy croesawus.
“Dan yr amgylchiadau eithriadol o anodd presennol, fe wnaeth y cydymdeimlad, dychymyg a’r blaengaredd y mae rhai wedi eu dangos wrth ymateb iddynt argraff anferth arnaf, gan lwyddo i wneud yr Eglwys yn fwy hygyrch ac, os caf ddweud, yn fwy perthnasol.
“Ar hyd fy nghyfnod yn y weinidogaeth, rwyf wedi bod yn ffodus o gael cefnogaeth llawer o gydweithwyr lleyg ac ordeiniedig gwerthfawr, o fewn yr Eglwys a’r tu allan iddi, a theulu cariadus iawn a llawn cydymdeimlad.”
‘Cadarn a phendant’
Dywedodd Esgob Bangor, Andrew John, a fydd yn arwain yr Eglwys nes y bydd Archesgob newydd yn cael ei ethol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fod John Davies wedi cynnig sefydlogrwydd i’r eglwys yng Nghymru yn ystod y pandemig.
“Mae John wedi bod yn gadarn a phendant yn yr amseroedd anodd iawn yma, gan gynnig sefydlogrwydd yr oedd mawr ei angen a llais cysurlon, i’r rhai yn yr Eglwys ac yn y gymuned ehangach,” meddai.
“Ar ran ei gyd-esgobion, rwy’n diolch iddo am yr oruchwyliaeth y mae wedi ei rhoi i ni ac yn anfon ein dymuniadau gorau un am ymddeoliad hir a hapus.”
O’r gyfraith i’r weinidogaeth
Yn wreiddiol o Gasnewydd, graddiodd John Davies yn y gyfraith o Brifysgol Southampton yn 1977, gan arbenigo mewn cyfraith droseddol. Ar ôl gadael gyrfa yn y gyfraith cafodd ei ordeinio yn 1984 ac ennill gradd Meistr yng Nghyfraith yr Eglwys.
Cyfrannodd yn helaeth at fywyd yr eglwys ar lefel blwyfol, esgobol a rhanbarthol.
Mae yn gyn-aelod o gôr eglwysig, yn organydd ac arweinydd côr, ac mae ganddo ddiddordeb angerddol mewn cerddoriaeth eglwysig.
Gwasanaethodd yn Esgobaeth Mynwy mewn amrywiaeth o blwyfi gwledig, ôl-ddiwydiannol a threfol, a bu hefyd yn Swyddog Ysgolion yr Esgobaeth a Swyddog Materion Ecwmenaidd.
Fe’i penodwyd yn Ddeon Aberhonddu yn 2000, ac fe’i hetholwyd yn nawfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 2008.
Yn dilyn ymddeoliad Dr Barry Morgan yn Ionawr 2017, cafodd ei benodi yn Archesgob yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd John Davies yn ymddeol o’i swyddi yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ac Archesgob Cymru ar Fai 2.