Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cau ei holl feysydd parcio er mwyn atal pobl rhag teithio’n ddiangen.
Dan gyfyngiadau Lefel 4 rhaid i unrhyw ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref – does dim hawl teithio i ardal arall i ymarfer corff.
‘Camau brys’
Yn ôl Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, blaenoriaeth y Parc Cenedlaethol yw gwarchod cymunedau Eryri.
“Mae’n amser tyngedfennol yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws ac mae’n flaenoriaeth gennym ni warchod cymunedau Eryri,” meddai.
“Oherwydd y niferoedd uchel o bobl sydd wedi eu gweld yn anwybyddu rheoliadau cyfredol o gwmpas Eryri ers y Nadolig rydym wedi cymryd y camau brys hyn er mwyn cefnogi Llywodraeth Cymru yn eu neges bod angen osgoi teithio’n ddiangen.
“Rydym yn gobeithio bydd pobl yn cymryd cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd ac yn dilyn canllawiau’r llywodraeth o’u gwirfodd.”
Cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i gydweithio gyda’r Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau fod pobl yn cydymffurfio â rheolau teithio Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn deall fod pobl eisiau mynd allan i fwynhau’r mynyddoedd a’r eira,” meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru, Nigel Harrison.
“Fodd bynnag, mae hwn yn argyfwng cenedlaethol ac fe wnawn barhau i gydweithio hefo cydweithwyr o’r Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau fod pobl yn cydymffurfio â rheolau teithio Llywodraeth Cymru.
“Mae’r cyfyngiadau yn bodoli er mwyn ein gwrachod ni gyd. Mae’n hanfodol fod pawb yn cymryd cyfrifoldeb personol drwy aros adref, oni bai fod ganddynt reswm penodol.
“Nid yw’n dderbyniol dewis a dethol y cyfreithiau yr ydych am eu dilyn a’r rhai nad ydych am beidio eu dilyn.
“Rydym i gyd yn ymwybodol o’r gyfraith erbyn hyn ac yn gwybod yn union yr hyn sy’n iawn i’w wneud.”