Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi croesawu’r cyhoeddiad bydd pobol sy’n teithio o dramor i Loegr a’r Alban yn gorfod cael prawf negyddol am Covid cyn teithio.

Fodd bynnag yn ôl y Prif Weinidog nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i Gymru ar hyn o bryd.

O dan gynlluniau sydd wedi’u hamlinellu gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps fe fydd yn rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd Lloegr ar gwch, tren neu’n hedfan – gan gynnyws dinasyddion y Deyrnas Unedig – gymryd prawf Covid hyd at 72 awr cyn gadael ar eu taith.

Mae mesurau tebyg wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth yr Alban tra bod swyddogion yn dweud eu bod yn gweithio’n agos gyda’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ynglyn a mabwysiadu’r mesurau.

Dywedodd Grant Shapps mai pwrpas y mesur newydd yw atal lledaeniad yr amrywiolyn newydd o’r firws sydd wedi ymddangos mewn gwledydd fel De Affrica a Denmarc. Fe fydd dirwy o £500 i unrhyw un sydd ddim yn cydymffurfio a’r rheolau.

Fe fydd rhai yn cael eu heithrio o’r mesurau gan gynnwys gyrwyr loriau, plant o dan 11 oed a rhai sy’n teithio o wledydd sydd ddim a’r gallu i wneud y profion.

Daw hyn yn dilyn y penderfyniad i atal yr holl deithiau uniongyrchol o Dde Affrica lle mae achosion o’r amrywiolyn newydd wedi dod i’r amlwg sy’n fwy heintus.

Maes awyr Caerdydd ar gau i deithwyr arferol

Eglurodd Mark Drakeford fod unig faes awyr rhyngwladol Cymru, Maes Awyr Caerdydd, ar gau i deithwyr arferol.

“Does gennym ni neb yn dod i mewn i Gymru ar hyn o bryd,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Mae ein maes awyr ar gau i draffig teithwyr ac mae’r bobol sy’n dod i mewn i borthladdoedd Cymru i gyd yn dod o ardal deithio gyffredin ac nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i bobol o dan yr amgylchiadau hynny.

“Felly ar hyn o bryd, nid yw hyn yn berthnasol yng Nghymru gan nad oes neb yn dod i Gymru yn y ffordd y mae pobol yn dal i ddod i Mewn i Loegr a’r Alban, ond rwy’n cefnogi’n gryf yr hyn sy’n cael ei wneud.

“Pan fydd pobol yn dechrau teithio i Gymru o rannau eraill o’r byd, byddwn yn disgwyl i’r un rheolau fod yn berthnasol.”