Mae cwmni fferi Stena Line wedi canslo deuddeg taith rhwng Cymru ag Iwerddon.

Mae hyn yn cynnwys pedair taith rhwng Caergybi a Dulyn ac wyth rhwng Abergwaun a Rosslare.

Cam dros dro yw hwn, yn ôl y cwmni, ond bydd ail ddechrau’r teithiau yn dibynnu ar y galw.

Wedi i gyfnod pontio Brexit ddod i ben mae’r cwmni fferi wedi gweld gostyngiad o 70% mewn cludo nwyddau ar lwybrau rhwng Cymru ac Iwerddon.

Daw’r newid wedi i’r cwmni newid llwybr teithio ac adleoli rhai llongau i greu cysylltiad uniongyrchol rhwng Iwerddon a’r cyfandir.

Nwyddau a theithwyr wedi’u cyfyngu

Eglurodd Paul Grant, Cyfarwyddwr Masnach Môr Iwerddon, fod cwmnïau fel Stena Line yn ddibynnol ar gyfuniad o nwyddau a theithwyr.

“Mae cyfyngu ar y ddwy ran yma ar yr un pryd yn rhoi pwysau ar ein gallu i gynnal y lefel arferol o deithiau ar hyd y llwybrau,” meddai.

“Mae problemau yn y gadwyn gyflenwi wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y nwyddau’r wythnos hon yn ein porthladdoedd yng Nghaergybi ac Abergwaun.

“Gellir adfer capasiti’n gyflym wrth i’r galw godi, yn y cyfamser mae angen i ni fod yn effeithlon o ran sut rydym yn rheoli ein hamserlenni.”

‘Pryder mawr’

Yn ôl Bob Llewelyn, un o gynrychiolwyr tref Caergybi ar Gyngor Ynys Môn, mae’r porthladd yn dawel fel y bedd, er ei fod “fel arfer yn llawn”.

“Rydym wedi paratoi i gael mwy o draffig – dwbl y traffig – ond does dim byd wedi digwydd!” meddai.

“Mae’r traffig yn mynd trwadd yn syth. Does dim byd yn disgwyl i fynd trwadd. Mae’n bryder mawr, a dweud y gwir. Roedd pawb yn ofn y byddai hold ups a phob peth ar lôn yr A55.

“Maen nhw wedi rhoi golau a’r côns yma reit ar hyd y lonydd, i’w helpu nhw. Ond does dim traffig wedi dod drosodd ata fo.

“Ella bod hwn yn amser distaw ar ôl ‘Dolig. Ac ella wneith betha’ bigo fyny eto.”

“Pryder mawr” am y diffyg traffig i borthladd Caergybi

Ond mae Llywodraeth Cymru yn darogan y bydd pethau’n prysuro