Fe fydd ysgolion a cholegau yng Nghymru yn parhau ynghau i’r rhan fwyaf o ddisgyblion tan ar ôl hanner tymor ym mis Chwefror oni bai bod gostyngiad “sylweddol” mewn achosion cyn Ionawr 29, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Daw’r rhybudd wrth iddo ymestyn a “chryfhau’r” cyfyngiadau clo presennol. Mae Cymru wedi bod mewn mesurau Lefel 4 ers Rhagfyr 20 mewn ymdrech i atal y coronafeirws rhag lledu.
Mae dysgu wyneb yn wyneb mewn rhai prifysgolion yng Nghymru hefyd wedi cael ei ohirio ac mae asesiadau TGAU a Safon Uwch wedi cael eu canslo. Mae’n dilyn cyhoeddiad tebyg yn Lloegr ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson ddweud na ddylai ysgolion agor cyn y gwyliau hanner tymor.
Roedd disgwyl i fyfyrwyr mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru gael gwersi ar-lein tan Ionawr 18 ond fe allai barhau tan ar ôl hanner tymor os nad yw achosion wedi gostwng erbyn yr adolygiad nesaf ar Ionawr 29.
Fe fyddai’n golygu bod ysgolion yn ail-agor ar Chwefror 22.
Croesawu’r penderfyniad
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi croesawu datganiad Llywodraeth Cymru heddiw (Ionawr 8).
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae’r penderfyniad wedi’i seilio ar wybodaeth feddygol ac yn cadw at egwyddor allweddol y Gweinidog Addysg mai ‘tystiolaeth a gwybodaeth’ yw’r unig fodd o ennill ‘hyder rhieni, staff a myfyrwyr’.
“Bydd datganiad cynnar yn rhoi peth cyfle i ysgolion a cholegau gynllunio ymlaen llaw ar gyfer sicrhau addysg ar gyfer disgyblion a myfyrwyr. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i rieni wneud trefniadau priodol gan gofio y bydd nifer sylweddol o staff ysgol eu hunain yn rhieni.
“Mae UCAC wedi ymrwymo i weithio ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i sicrhau y bydd staff a disgyblion yn gallu dychwelyd i’r ysgol a’r coleg pan mae’n ddiogel i wneud hynny.”