Dyw athrawon ddim yn wynebu risg uwch o gael eu heintio â’r coronafeirws, medd arbenigwr.

Daw hyn yn sgil galwadau gan y proffesiwn i gael eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer brechlynnau.

Mae undeb athrawon NASUWT yn galw am flaenoriaethu’r holl athrawon a staff addysg ar gyfer y brechlyn coronafeirws er mwyn achub bywydau a helpu i gael plant yn ôl i’r ysgol.

Mae’n dadlau bod rhoi blaenoriaeth i athrawon wrth gyflwyno’r rhaglen frechu “er budd y genedl”.

Fodd bynnag, dywedodd Mark Woolhouse, athro epidemioleg clefydau heintus ym Mhrifysgol Caeredin, nad oes unrhyw ddata i awgrymu bod athrawon mewn mwy o berygl.

Wrth siarad fel ymchwilydd annibynnol, ac nid mewn rôl gynghori, dywedodd: “O ran a yw athrawon mewn perygl, mae nifer o astudiaethau wedi bod ar hyn bellach ac nid yw athrawon, fel proffesiwn, mewn mwy o berygl na llawer o broffesiynau eraill, ac yn sicr nid ydynt mewn perygl uwch o gael eu heintio yn y lle cyntaf.”

Ychwanegodd bod athrawon sy’n agored i niwed eisoes yn cael eu cynnwys yn y rhestrau blaenoriaeth.

“Nid yw athrawon yn arbennig o agored i niwed – dyna’r peth allweddol yma,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn eithriadol o agored i niwed, ac os ydyn nhw, byddan nhw ar y rhestr flaenoriaethau yn barod.

“Mae’r data’n awgrymu nad yw’r athrawon mewn perygl uwch o gymharu â phroffesiynau eraill,” meddai.

“Ac nid ydynt mewn perygl uwch o gael eu heintio, nid ydynt mewn perygl uwch o glefyd difrifol.”

Rhoi blaenoriaeth i athrawon yn “hanfodol” er mwyn dychwelyd plant i ysgolion a cholegau

Fodd bynnag, dywedodd NASUWT fod rhoi’r pigiad i athrawon yn hanfodol er mwyn helpu i amddiffyn athrawon a’u disgyblion ac i ganiatáu i’r wlad symud i sefyllfa lle mae plant yn gallu mynd yn ôl i ysgolion a cholegau.

Mae’r galwadau am frechu athrawon wedi cael eu hadleisio ar draws y proffesiwn.

Dywedodd Kevin Courtney, cyd-ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb Addysg Genedlaethol: “Credwn y dylai staff addysg gael eu cynnwys yn y rhaglen frechu ar yr un pryd â staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol.

“Bydd hyn yn eu cadw’n ddiogel wrth addysgu mewn ysgolion a cholegau ac yn sicrhau bod llai o darfu ar addysg pan ellir ailagor ysgolion yn ddiogel y tu hwnt i weithiwr allweddol a phlant sy’n agored i niwed eto.”

“Chwerthinllyd”

Ategodd Dr Lucy Wenham, darlithydd addysg ym Mhrifysgol Bryste, yr alwad gan ddweud ei bod yn credu’n gryf bod angen ystyried athrawon fel blaenoriaeth ar gyfer brechu.

“Nid oes digon o drafodaeth am beryglon yr holl gyfarfod y tu mewn,” meddai.

“Mae’r risg gynyddol o gyswllt parhaus dan do yn glir.

“Mae athrawon, hyd yn oed gyda grwpiau llai o fyfyrwyr sy’n agored i niwed a myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithwyr allweddol, mewn mwy o berygl.

“Mae’r syniad o ychwanegu at faint y grŵp hwn drwy ailddosbarthu myfyrwyr heb liniaduron fel agored i niwed ac felly cynyddu’r niferoedd sy’n mynychu’r ysgol yn ystod cyfyngiadau symud, yn chwerthinllyd.

“Mae angen i’r Llywodraeth gamu i fyny a chefnogi athrawon a myfyrwyr.”