Mae Gweinidog Iechyd wedi dweud y bydd pobol sy’n teithio i Loegr a’r Alban yn derbyn profion Covid cyn hedfan “cyn bo’ hir”.

Dywedodd y gweinidog iechyd, yr Arglwydd Bethell, fod teithio rhyngwladol wedi bod yn ffynhonnell haint i’r Deyrnas Unedig yn ystod ton gyntaf y pandemig a’r ail, gan nodi fod hynny’n “parhau i fod yn wir”.

“Dyna pam ein bod yn gweithio ar brosesu mesurau newydd fydd yn cael eu cyflwyno cyn bo hir – i gael profion cyn hedfan i deithwyr i Brydain, ac edrychwn ymlaen at weld y rheiny’n cael eu cyhoeddi cyn bo hir.”

Roedd yr Athro Robert Winston ymhlith nifer o Arglwyddi i godi pryderon ynghylch y diffyg gwiriadau ar gyfer teithwyr rhyngwladol.

Rhybuddiodd: “Y mwyaf o bobl sy’n dod o’r tu allan i’ch amgylchedd eich hun, er enghraifft y tu allan i’r wlad, y mwyaf tebygol ydynt o ddod â’r amrywiolyn newydd o’r feirws i mewn gyda nhw.”

Dywedodd fod teithio rhyngwladol yn un o’r “problemau amlwg”, gan ychwanegu bod cannoedd o filoedd o bobl yn cyrraedd yn wythnosol.

“Dydyn ni ddim yn eu holrhain yn gywir, ac mae rhai ohonyn nhw’n cael eu holi a fydden nhw’n hoffi cael eu profi’n wirfoddol ac yna mae’n rhaid iddyn nhw dalu amdano.

“Mae hyn yn amlwg yn nonsens llwyr.

“Dylai fod rheolaeth llawer llymach ar bobol sy’n dod i mewn i’r wlad hon, fel sy’n digwydd mewn gwledydd eraill eisoes.”